Newyddion S4C

Madeleine McCann: Enwi prif berson dan amheuaeth yn yr ymchwiliad

Sky News 22/04/2022
Madeleine McCann.jpg

Mae awdurdodau ym Mhortiwgal wedi enwi dyn sydd wedi ei wneud yn brif berson dan amheuaeth yn yr ymchwiliad i ddiflaniad Madeleine McCann. 

Nid yw Christian B wedi ei gyhuddo yn swyddogol hyd yma.

Mae'r unigolyn yn y carchar yn Yr Almaen ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio dynes 72 oed yn ôl yn 2005 yn yr un dref ag yr aeth Madeleine ar goll. 

Roedd Madeleine yn dair oed ac ar wyliau gyda'i theulu pan ddiflannodd hi o Praia da Luz ym mis Mai 2007.  

Dywedodd llefarydd ym Mhortiwgal bod "cyfiawnhad cyfreithiol o enwi Christian B fel diffynnydd swyddogol ar ôl honiadau ei fod wedi cyfaddef i ffrind ei fod wedi herwgipio Madeleine, ac mae cofnodion ffôn yn dangos ei fod yn Praia da Luz y noson ddiflannodd Madeleine."

Bydd hi'n bymtheg mlynedd ym mis Mai ers i Madeleine ddiflannu, ac mae'r gyfraith ym Mhortiwgal yn datgan na ellir cyhuddo rhywun yn swyddogol ar ôl y dyddiad yma.

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.