Y Frenhines Elizabeth yn dathlu ei phen-blwydd yn 96

21/04/2022
Royal Windsor Horse Show - Y Frenhines 96

Mae'r Frenhines Elizabeth yn dathlu ei phen-blwydd yn 96 oed ddydd Iau.

Y gred yw bod Ei Mawrhydi'r Frenhines yn dathlu ei phen-blwydd yn Sandringham gyda rhai aelodau o'i theulu yn bresennol.

Daw'r pen-blwydd ar drothwy carreg filltir sylweddol i'r Frenhines wrth iddi ddathlu ei Jiwbilî Platinwm ym mis Gorffennaf - y tro cyntaf i deyrnasiad brenin neu frenhines ym Mhrydain gyrraedd 70 mlynedd.

Fe fydd Gŵyl y Banc mis Mai yn cael ei symud i 2 Mehefin, gyda Gŵyl y Banc ychwanegol i ddilyn ar 3 Mehefin i nodi dathliadau'r Frenhines.

Mae cyfarchion wedi eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol gan nifer o aelodau ei theulu, gan gynnwys Dug a Duges Caergrawnt.

I nodi ei phen-blwydd, mae Sioe Geffylau Frenhinol Windsor wedi rhyddhau llun newydd o'r Frenhines gyda dau o'i cheffylau.

LLun: Sioe Geffylau Frenhinol Windsor

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.