Boris Johnson i gael ei ymchwilio am 'gamarwain' Tŷ’r Cyffredin

Boris Johnson i gael ei ymchwilio am 'gamarwain' Tŷ’r Cyffredin
Fe fydd pwyllgor Seneddol yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod os yw Boris Johnson wedi camarwain Tŷ’r Cyffredin.
Mae Aelodau Seneddol yn San Steffan wedi cefnogi cais y Blaid Lafur i gynnal ymchwiliad swyddogol i sylwadau'r Prif Weinidog yn sgil adroddiadau o bartïon yn Rhif 10 yn ystod y cyfnod clo.
Fe wnaeth Mr Johnson wadu bod y digwyddiadau honedig yn groes i reolau Covid-19.
Serch hyn, cafodd y Prif Weinidog a'r Canghellor, Rishi Sunak, eu dirwyo gan Heddlu'r Met wythnos diwethaf am fynychu parti anghyfreithlon ym mis Mehefin 2020.
Bu'r Llywodraeth yn ceisio gohirio'r bleidlais oherwydd pryderon y byddai nifer o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn gwrthryfela yn erbyn y Prif Weinidog.
Dywedodd gweinidogion y dylai'r bleidlais fynd yn ei blaen wedi i ymchwiliad yr heddlu i'r partïon ddod i ben, ac ar ôl cyhoeddi adroddiad y gwas sifil blaenllaw Sue Gray i'r digwyddiadau.
Ond bu'r Llywodraeth yn rhoi gorau'r i'r ymdrechion yma a chafodd y cais ei basio heb bleidlais.
Ni fydd yr ymchwiliad yn dechrau nes bod Heddlu'r Met wedi cwblhau ei ymchwiliadau i'r partïon honedig.
Mae'r heddlu hefyd wedi cyhoeddi ni fydd rhagor o ddirwyon yn cael eu rhoi tan ar ôl canlyniadau'r etholiadau lleol ym mis Mai.
Bydd pwysau ar Boris Johnson i ymddiswyddo os yw'r ymchwiliad yn canfod ei fod wedi camarwain y Tŷ yn fwriadol.
Mae Boris Johnson bellach wedi dweud nad oedd yn ymwybodol bod y partïon yn torri'r rheolau ac felly nad oedd yn dweud celwydd.
Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi wynebu galwadau o fewn y Blaid Geidwadol i ymddiswyddo.
Bu'r AS Ceidwadol Steve Baker, a chwaraeodd rôl flaengar yn ethol Mr Johnson fel arweinydd y Ceidwadwyr, yn ychwanegu at y pwysau ar y Prif Weinidog gan alw arno i gamu lawr yn ystod y ddadl yn San Steffan ddydd Iau.
Ond mewn cyfweliad nos Fercher, dywedodd Mr Johnson ei fod yn bwriadu arwain ei blaid yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
“Rwy’n credu mai’r peth gorau y gallwn ni i gyd ei wneud yw canolbwyntio ar y pethau sydd yn gwella bywydau pleidleiswyr a rhoi’r gorau i siarad am wleidyddion,” meddai Mr Johnson.