Pwerau stopio a chwilio gan yr heddlu yn sgil ymladd ym Mhontypridd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi pwerau stopio a chwilio ychwanegol i blismyn ym Mhontypridd yn sgil adroddiadau o drais ac ymladd yn y dref.
Bu Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi hysbysiad Adran 60 ar gyfer yr ardal ddydd Llun, sydd yn galluogi swyddogion i stopio a chwilio unrhyw un heb achos.
Daeth y gorchymyn i rym am 2:42 fore ddydd Llun ac mae'n parhau am 24 awr.
Yn ôl yr heddlu, mae'r gorchymyn mewn lle er mwyn atal rhagor o aflonyddwch yn dilyn adroddiadau o drais ac ymladd yn ardal Broadway yn y dref yn ystod oriau man fore Llun.
Dywedodd yr uwch-arolygydd Marc Atwell wrth gyhoeddi'r mesurau: "Mae'r pwerau stopio a chwilio ychwanegol wedi'u hawdurdodi yn dilyn adroddiadau o ymladd ymysg nifer fawr o bobl."
"Dydy'r defnydd o'r pwerau yma ddim yn benderfyniad hawdd, ac maen nhw wedi eu cyflwyno i gadw cymuned a phobl Pontypridd yn ddiogel."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ddydd Llun i gysylltu â nhw ar unwaith.