Apêl o'r newydd i ddod o hyd i fachgen 15 oed sydd ar goll

18/04/2022
Iestyn Fullalove

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i fachgen 15 oed sydd ar goll.

Cafodd Iestyn Fullalove ei weld ddiwethaf yn Y Fenni am tua 16:20 ar ddydd Sadwrn, 9 Ebrill, ac mae swyddogion yn pryderu am ei les.

Mae Iestyn wedi ei ddisgrifio gan yr heddlu fel bachgen gwyn, tenau tua 5'7" gyda gwallt brown.

Pan gafodd ei weld ddiwethaf, roedd yn gwisgo trowsus ymarfer du, cot ddu ac esgidiau ymarfer du.

Mae ganddo gysylltiadau ag ardaloedd Caerffili, Glyn Ebwy a Phontypridd.

DIWEDDARIAD: Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod Iestyn bellach wedi ei ddarganfod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.