Côr yr Urdd yn perfformio mewn eglwys yn Birmingham Alabama
Bu Côr yr Urdd yn perfformio mewn eglwys yn Unol Daleithiau America nos Sul i ddathlu Sul y Pasg.
Cafodd y perfformiad ei gynnal yn Eglwys y Bedyddwyr 16th Street yn Birmingham, Alabama.
Mae perthynas wedi bodoli rhwng Cymru ac Alabama ers i'r eglwys gael ei bomio yn 1963.
Yn yr eglwys, mae ffenestr o liw o'r enw "Ffenestr Cymru" wedi ei lleoli.
Fe gafodd y ffenestr ei rhoi fel anrheg gan bobl Cymru er cof am ddioddefwyr y bomio.
Mae gan fudiad Urdd Gobaith Cymru gysylltiad agos gydag Alabama ac maen nhw wedi teithio yno i berfformio a dysgu am hanes y mudiad hawliau sifil a chanu hwyliog.
Eleni, bydd y mudiad ieuenctid a gafodd ei sefydlu yn 1922 yn dathlu'r canmlwyddiant ac mae'r daith yno yn rhan o'r arlwy.
Llun: Urdd Gobaith Cymru