Wcráin: Zelensky yn rhybuddio gall Rwsia ddefnyddio arfau niwclear

Mae Arlywydd Wcráin, Volodomyr Zelensky wedi rhybuddio y gall Rwsia ddefnyddio arfau niwclear yn erbyn ei wlad.
Dywedodd wrth asiantaeth newyddion CNN fod yn rhaid “I bob gwlad yn y byd baratoi” i Vladimir Putin ddefnyddio arfau niwclear yn erbyn Wcráin.
Ychwanegodd: “Iddyn nhw mae bywyd pobol yn ddim.”
Mae ymosodiadau wedi ail-gychwyn ar brifddinas Wcráin, Kyiv dros nos.
Yn ôl adroddiadau mae Rwsia wedi rhybuddio'r UDA a gwledydd eraill i beidio arfogi Wcráin neu bydd yna “ganlyniadau anrhagweladwy.”
Darllenwch fwy yma.