Ysgrifennydd Cymru yn credu na ddylai Boris Johnson gamu lawr os daw rhagor o ddirwyon

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud na ddylai Boris Johnson gamu lawr os bydd yn derbyn rhagor o ddirwynon.
Mae Mr Johnson a'r Canghellor Rishi Sunak wedi ymddiheuro am dderbyn dirwyon gan Heddlu'r Met am fod mewn parti pen-blwydd yn 10 Downing Street yn ystod y cyfnod clo ym mis Mehefin y llynedd.
Fe gafodd gwraig Mr Johnson, Carrie Johnson, ddirwy hefyd am fod yn y parti.
Mewn cyfweliad fore dydd Iau, Dywedodd Simon Hart A.S. nad oedd "o reidrwydd yn gweld y gwahaniaeth rhwng un neu ddau (ddirwy), er enghraifft - yr un yw’r egwyddor.”
Darllenwch ragor am y stori hon yma.