Newyddion S4C

Boris Johnson yn ymddiheuro ar ôl cael dirwy am fod mewn parti yn y cyfnod clo

CC

Mae Boris Johnson wedi ymddiheuro ar ôl cael dirwy yn rhan o ymchwiliad Heddlu'r Met i bartïon yn Downing Street a Whitehall yn ystod y cyfnod clo.

Dywedodd y Prif Weinidog: "Rwyf wedi talu'r ddirwy ac rwy'n cynnig ymddiheuriad llawn."

Pan ofynnwyd iddo a fyddai’n ymddiswyddo dywedodd: “Rwyf am allu bwrw ymlaen â’r mandad sydd gennyf a mynd i’r afael â phroblemau’r wlad.”

Cadarnhaodd Downing Street yn gynharach ddydd Mawrth y byddai Mr Johnson a'r Canghellor Rishi Sunak yn derbyn dirwyon yn sgil eu presenoldeb mewn parti yn ystod y cyfnod clo. 

Mae Mr Sunak hefyd wedi ymddiheuro: “Rwy’n difaru'n fawr ac mae’n ddrwg gennyf. Fel y Prif Weinidog, rwy’n canolbwyntio ar weithredu dros bobl Prydain yn ystod yr amser heriol hwn.”

Mae llefarydd ar ran Carrie Johnson, gwraig Boris Johnson, wedi cadarnhau ei bod hithau hefyd wedi derbyn dirwy. 


Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.