Cynnal gig ym Môn i godi arian ar gyfer ffoaduriaid Wcráin
Cynnal gig ym Môn i godi arian ar gyfer ffoaduriaid Wcráin
Mae rhai o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru wedi penderfynu trefnu gig arbennig i godi arian ar gyfer ffoaduriaid Wcráin.
Bydd Cae Sioe Môn yn croesawu llu o berfformwyr ar ddechrau Ebrill, gan gynnwys artistiaid fel Alffa, Bryn Fôn a'r Band, Elin Fflur, Bwncath, Band Pres Llareggub, Bodau Papur, Meinir Gwilym a Band Phill Gas.
Bydd holl elw'r digwyddiad yn mynd tuag at gefnogi ffoaduriaid o Wcráin.
Ymhlith y perfformwyr bydd y cyflwynwyr Tudur Owen, Dei Pws a Rhys Mwyn yn arwain y digwyddiad.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Tudur Owen: “Dani gyd wedi gweld yr adroddiadau erchyll sy’n dod o Wcráin ac yn gweld yn ddyddiol yr hyn sy’n digwydd yna.
“Mi ydw’i a phawb arall yn teimlo’n rhwystredig iawn ein bod ni methu gwneud fawr i helpu. Ond mewn ymdrech i helpu, mae ‘na gig fawr yn mynd i fod yn digwydd.”
Mae’r holl artistiaid wedi cytuno i berfformio am ddim, a bydd gwestai arbennig sydd â chysylltiad gydag Wcráin yn ymddangos yn y digwyddiad sydd wedi ei drefnu gan Bryn Fôn.
Ychwanegodd Tudur Owen: “Pan mae Bryn Fôn yn ffonio ac yn gofyn i chi neud rwbath, ma’n anodd iawn gwrthod. Ond wrth gwrs pwy fysa’n gwrthod i helpu, i gyfrannu ac i ddangos ein cefnogaeth."
Mae Pwyllgor Sioe Môn wedi rhoi’r lleoliad am ddim i'r trefnwyr, a Ffermwyr Ifanc Môn fydd yn rhedeg y bar.
Mae cynghorau Ynys Môn a Gwynedd, busnesau lleol, ac Undeb Amaethwyr Cymru wedi noddi’r gig. Mae modd prynu tocynnau ar wefan www.cymru-wcráin.cymru ac mewn siopau llyfrau Cymraeg Ynys Môn a Gwynedd.
Yn y cyfamser, mae S4C wedi cyhoeddi bydd Cyngerdd Cymru ac Wcráin yn cael ei gynnal ar nos Sadwrn, 2 Ebrill yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, gydag artistiaid o Gymru ac Wcráin yn perfformio.