Cymru yn brwydro i ennill pwynt yn Nhwrci
Fe wnaeth Cymru frwydro yn galed i ennill pwynt yn Nhwrci nos Sadwrn.
Di-sgôr oedd hi yn Kayseri gyda Chymru dan bwysau am ran fwyaf o'r ornest.
Pwysleisiodd Craig Bellamy y 15 munud agoriadol wrth drafod y gêm hon, ac roedd Cymru dan y don am rhan fawr o’r cyfnod hwnnw.
Er bod gan Dwrci rhan fwyaf o’r meddiant ac yn chwarae yn hanner Cymru, doedden nhw heb greu llawer o gyfleoedd clir.
Daeth cyfle gorau’r hanner i Dwrci wedi hanner awr wrth i Yunus Akgün derbyn y bêl heibio’r amddiffyn, ond roedd Karl Darlow allan yn gyflym i arbed yn arbennig.
Bu'n rhaid i Joe Rodon a Ben Davies flocio ergydion ymosodwyr Twrci sawl tro yn 15 munud ola’r hanner.
Wedi pum munud o amser ychwanegol ar ddiwedd yr hanner cyntaf, fe ddaeth cyfle gorau Cymru.
Rhedodd Mark Harris lawr yr asgell a phasio i Harry Wilson llathen tu allan i’r cwrt cosbi, ond fe wnaeth ei ergyd tuag at gornel isa’r rhwyd daro’r postyn.
Di-sgôr oedd hi ar ddiwedd yr hanner.
Ail hanner bratiog
Ar ddechrau'r ail hanner fe ddaeth Daniel James ar y cae yn lle Mark Harris.
Nid oedd unrhyw gyfleoedd i'r naill dîm yn 15 munud cynta'r ail hanner wrth i'r frwydr am feddiant barhau.
Ben Davies oedd yr arwr eto i Gymru wrth iddo flocio ergyd acrobatiaid Enes Unal gyda'i ben wedi 69 munud.
Fe ddaeth Liam Cullen a David Brooks ar y cae yn lle Jordan James a Sorba Thomas wedi 72 o funudau.
A bu bron iddyn nhw gyfuno i greu gôl i Gymru, ond roedd ergyd Brooks yn bell dros y bar.
Gydag 13 munud yn weddill roedd chwarae da lawr yr asgell gan Dwrci wedi arwain at y bêl yn cyrraedd troed seren Real Madrid, Arda Guler, ond roedd ei ergyd hefyd ymhell dros y bar.
Bratiog oedd y chwarae gan y ddwy ochr yn y munudau olaf, gyda Thwrci yn gwthio am gôl a Chymru dan y don yn amddiffyn.
Gyda thair munud yn weddill fe ildiodd Gymru gic o'r smotyn wedi i'r dyfarnwr benderfynu bod Neco Williams wedi troseddu, er iddo ymddangos iddo ennill y bêl.
Fe aeth Karl Darlow y ffordd anghywir ond roedd y postyn wedi achub Cymru wrth i ergyd Aktürkoglu taro'r postyn dde ac allan am gic i'r golwr.
Mae'n annhebygol y bydd Cymru yn ennill dyrchafiad o'i grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn awtomatig, ond mae ganddyn nhw gyfle da i gyrraedd y gemau ail-gyfle.
Fyddai buddugoliaeth yn erbyn Gwlad yr Iâ nos Fawrth yn sicrhau hynny pe byddai Montenegro yn llwyddo i drechu Twrci.
Prif lun: Wochit