Yr awdur Mair Garnon James wedi marw

05/03/2022
Mair Garnon James

Mae'r awdur Mair Garnon James wedi marw.

Cafodd ei magu yn Llandudoch yn Sir Benfro ac fe dreuliodd oes yn gwasanaethu ei hardal leol.

Roedd ei llyfrau yn cynnwys y gyfrol Hiwmor Sir Benfro, rhan o gyfres Ti'n Jocan y cyhoeddwr Y Lolfa.

Roedd hefyd yn wyneb a llais amlwg mewn nosweithiau llawen ar hyd a lled y wlad, gan deithio pellteroedd maith yn creu adloniant ar hyd y blynyddoedd.

Fe ddywedodd yr awdur Emyr Llywelyn mewn rhagair i un o'i llyfrau mai Mair oedd "brenhines digrifwyr Dyfed".

Bu'n athrawes am nifer o flynyddoedd cyn ymddeol ar ddechrau'r 1990au.

Mewn neges gan dudalen Facebook cymuned Llandudoch, cafodd ei disgrifio fel "un a fu'n gefn i fywyd cymunedol a diwylliannol Llandudoch".

Mae'n gadael tri o blant, Carys, Meinir ac Emyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.