
Martiau anifeiliaid 'dal yn bwysig' i ffermwyr
Martiau anifeiliaid 'dal yn bwysig' i ffermwyr
Mae marchnadoedd da byw yn dal yn angenrheidiol, medd un ffarmwr llaeth sydd hefyd yn aelod o Undeb Amaethwyr Cymru.
Yn ôl Brian Walters o Gaerfyrddin, mae'r mart yn bwysig er mwyn cael gwybod “gwerth yr anifail”.
“Ambell waith ni yn cael siom bod rhywbeth ddim cystal â be o’n i yn meddwl, ond wedyn ar bryd arall ni yn cael mwy o arian na beth yn ni yn disgwyl. Felly mae hwn yn rhoi pris y farchnad i ni a hwnna sy’n bwysig.”
Daw ei sylwadau wrth i fart Caerfyrddin baratoi i ail agor ddydd Mercher a hynny ar ôl bod ar gau ers dros flwyddyn a hanner, wedi i Gyngor Sir Caerfyrddin benderfynu peidio ag adnewyddu les y cwmni arwerthu blaenorol.
Sicrhaodd y cyngor ddyfodol y mart y llynedd a chyhoeddi mai Nock Deighton Agricultural LLP fyddai'n gweithredu yno. Mae'r cwmni eisoes yn gyfrifol am fart Castell Newydd Emlyn.
Dywedodd Mark Burgoyne o Nock Deighton Agricultural LLP: "Mae Mart Caerfyrddin wedi bod mewn man gwael ers rhai blynyddoedd a’n bwriad yw rhoi bywyd newydd yn ôl i’r lle. Mae angen i ni adfywio’r mart i fod yn ganolfan fywiog yn gymdeithasol ac o safbwynt busnes. Mae’n gyfle gwych i bawb dan sylw ac yn bersonol rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her.”
Wedi i farchnadoedd da byw Aberteifi a'r Bont-faen gau yn 2019, mae Brian Walters yn cydnabod bod cynnal mart yn heriol, gyda rhai ffermwyr yn gwerthu eu da byw yn uniongyrchol i’r lladd-dai a’r archfarchnadoedd.
“Rhain i ni eisiau i ddod yn ôl achos pris y farchnad sydd yn gweud beth maen nhw yn cael yn y lladd-dai ac mae’r lladd-dai hyn yn dilyn beth yw pris y farchnad. Felly heb farchnadoedd bydd y lladd-dai yn llwyr controlo popeth.”

Dyw’r mart ddim yn rhywbeth i ffermwyr sydd wedi bod wrthi ers blynyddoedd yn unig, meddai.
"Mae’n gyfle i’r rhai ifanc sydd yn dechrau ffermio i brynu a gwerthu ac mae’r mart yn llawn o bobl ifanc hefyd. Yn ogystal â’r elfen werthu, mae mynd i’r mart yn cynnig mwy na hynny. Mae’n gyfle i gymdeithasu," ychwanega Brian Walters.
“Ni yn gwybod bod 'na lot o iselder iechyd ym myd ffermio ac mae hwn yn gyfle i ni ddod allan o’r fferm, o’r gwaith sy’n digwydd bob dydd. ‘Mae cael ryw awr neu ddwy yn y mart a siarad da pobl erill, rhai ffrindie ni ddim wedi gweld, yn enwedig nawr ag amser y lockdown wedi bod, mae e yn codi ein calon ni dod at ein gilydd.”