£7.5m yn ychwanegol y flwyddyn i S4C ar gyfer prosiectau digidol
Fe fydd S4C yn derbyn £7.5 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol dros y bum mlynedd nesaf, fel rhan o'i setliad ariannol.
Bydd yr arian ychwanegol, sydd yn gynnydd o 9% yng nghyllideb S4C, er mwyn datblygu gwasanaethau digidol y sianel.
Ond fe fydd ffi drwydded y BBC yn cael ei rhewi ar £159 y flwyddyn tan Ebrill 2024.
Yna fe fydd yn cynyddu gyda lefelau chwyddiant am y tair blynedd wedi hynny.
Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie y byddai rhewi'r ffi drwydded yn golygu "penderfyniadau anodd" fyddai'n cael effaith ar y rhai oedd yn talu'r drwydded.
Mewn datganiad i Dŷ'r Cyffredin ddydd Llun, fe gadarnhaodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Nadine Dorries mae'r ffi drwydded fydd yr unig ffynhonnell o arian cyhoeddus i S4C dros y bum mlynedd nesaf.
Ychwanegodd fod gan S4C "rôl unigryw ac allweddol" wrth hybu'r Gymraeg.
Serch hynny, dywedodd y Gweinidog bod costau byw ar gynnydd a bod y llywodraeth wedi gorfod ystyried goblygiadau unrhyw gynnydd yn y ffi drwydded.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn nifer o adroddiadau yn y wasg dros y penwythnos am ddyfodol y ffi drwydded.
Adolygu ffi'r drwydded
Fe gadarnhaodd Ms Dorries ddydd Llun y bydd y llywodraeth yn cynnal adolygiad o'r drwydded i'r dyfodol.
Yn dilyn cyhoeddiad Ms Dorries am yr arian ychwanegol i S4C, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies fod y cyhoeddiad yn newyddion da. Ychwanegodd fod gan y Ceidwadwyr "record falch o gefnogi darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg" fel y blaid oedd yn gyfrifol am sefydlu'r sianel yn 1982.
Mae Plaid Cymru wedi galw am ddatganoli darlledu yng Nghymru, gan ddadlau y byddai ariannu darlledwyr fel S4C a BBC Cymru yn uniongyrchol o fae Caerdydd yn diogelu eu dyfodol yn well.
'Newyddion gwych'
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad o San Steffan, dywedodd Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C: "Mae hyn yn newyddion gwych i gynulleidfa S4C yng Nghymru a thu hwnt.
"Yng ngoleuni’r cyhoeddiad byddwn nawr yn gweithio yn ofalus er mwyn gwireddu ein cynlluniau ar gyfer 2022-27.
"Byddwn yn edrych sut gallwn drawsnewid ein chwaraewr S4C Clic, sicrhau dosbarthiad ehangach ein cynnwys ar draws llwyfannau digidol, a gwella ein amlygrwydd ar setiau teledu clyfar.
"Mae hyn oll yn adlewyrchu’r newid yn y ffordd mae pobl yn gwylio cynnwys a rhaglenni teledu.
"Bydd y drefn ariannu newydd yn dod i fodolaeth o 1 Ebrill 2022, gyda’r setliad yn parhau hyd 31 Mawrth 2027."
Dywedodd Cadeirydd S4C, Rhodri Williams: “Mae’r setliad yma’n adlewyrchu ffydd y DCMS, a’r Ysgrifennydd Gwladol Nadine Dorries, yng ngweledigaeth S4C ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
"O ystyried yr hinsawdd economaidd mae’r setliad ariannol hwn, sy’n dod ar ôl misoedd o drafod rhwng y sianel a’r Llywodraeth, yn rhoi sylfaen dda i S4C gynllunio ar gyfer y cyfnod nesaf."