Colofnwyr yr Herald Cymraeg yn lleisio eu pryderon am ei ddyfodol
Mae colofnwyr cyhoeddiad yr Herald Cymraeg wedi datgan eu pryder ynglŷn â’i ddyfodol.
Ers rhai blynyddoedd mae’r Herald Cymraeg i’w weld fel atodiad o fewn papur y Daily Post, ond erbyn hyn dim ond un dudalen sydd yn ymddangos bob dydd Mercher.
Mae Angharad Tomos, sydd wedi bod yn cyfrannu i’r papur ers bron i 30 mlynedd wedi disgrifio’r dirywiad fel “siom”.
“Roedd yn bapur safonol wythnosol Cymraeg bryd hynny efo'i olygydd ei hun ac yn cadw'r traddodiad o swyddfa yng Nghaernarfon.
“Bellach, mae'r dudalen yn cael ei oddef dan berchnogaeth Cwmni Reach PLC, a dim ond bob tair wythnos maen nhw eisiau colofn gen i – dim ond colofnau y dair ohonom ydyw'r papur bellach.”
Dirywiad
Mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast, BBC Radio Cymru bore ddydd Iau ychwangodd bod y “sefyllfa yn anfoddhaol.”
Dywedodd bod angen i gwmni Reach PLC barchu cynulleidfa Gymraeg y Daily Post.
Mae Bethan Gwanas yn cyfrannu colofn ers ymhell dros 20 mlynedd ac yn gresynu o weld y fath ddirywiad.
“Roedd gweld y papur yn mynd yn atodiad i'r Daily Post yn sioc, ond wedyn caewyd y swyddfa yng Nghaernarfon ac mi gollodd y golygydd ei swydd. A rŵan, dim ond un golofn sydd ynddo ar y tro. Mae’r criw presennol, sy’n newid bob dau funud, yn gwneud eu gorau dan amgylchiadau anodd.
“Dydi Reach PLC yn amlwg ddim yn malio llawer am y cynnwys Cymraeg.”
Yn ôl Bethan Jones y trydydd colofnydd, sy’n cyfrannu ers 2002, nid rhesymau ariannol sy'n gyfrifol am y cwtogi.
Di-dâl
“Gwnaeth Reach PLC elw cyn treth llynedd o £25.7 miliwn, ond ni all fforddio buddsoddi yn y papur. £25-£40 bob tair wythnos yw ein tâl am dudalen lawn.”
Am gyfnod y llynedd, bu Angharad Tomos, Bethan Gwanas a Bethan Jones yn cyfrannu colofnau yn ddi-dâl i'r Herald am eu bod mor frwd i weld ei barhad.
Un o'r rhai sy'n cefnogi'r alwad i sicrhau dyfodol y cyhoeddiad yw'r Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd.
Ei syniad ef yw cynnwys tudalen ddyddiol o newyddion Cymraeg, gyda geirfa i ddysgwyr yn y Daily Post.
Mewn ymateb, dywedodd golygydd y Daily Post, Dion Jones: "Mae gan Yr Herald Cymraeg etifeddiaeth hir o dros 160 o flynyddoedd.
"Ers 2005, mae'r Daily Post wedi bod yn falch o'i gynnwys fel atodiad o wythnos i wythnos.
"Tra bod rhesymau masnachol yn golygu na fydd y golofn yn cael yr un cynhwysedd a chafwyd yn y gorffennol, mae'r angerdd i gadw'r traddodiad yn fyw yn parhau i fod yn gryf.
"Mae traean o'n staff llawn amser yn Gymry Cymraeg i'r carn, rydym yn parchu'r iaith, ei hanes ac yn gwerthfawrogi rôl Yr Herald Cymraeg i gadw hi'n fyw ac yn iach."