Newyddion S4C

'Dylai ymchwiliad i bartïon Rhif 10 fod yn fwy annibynnol’

Rhif 10 Downing Street

‘Dylai ymchwiliad i bartïon Rhif 10 fod yn fwy annibynnol’

Mae cyn weision sifil ac arweinydd undeb wedi rhybuddio y dylai ymchwiliad i bartïon Downing Street yn ystod y cyfnod clo gael fwy o annibyniaeth oddi wrth rif 10.

Daw’r rhybudd wedi pryderon y gallai’r Prif Weinidog, Boris Johnson feto neu wrthwynebu casgliadau ymchwiliad y gweithiwr sifil Sue Gray os yw’n argymell y dylid ymchwilio iddo o dan y cod gweinidogol.

Yn ôl, Dave Penman, pennaeth undeb yr FDA, sy'n cynrychioli uwch weision sifil, os yw Gray yn gwneud argymhelliad ar gyfer ymholiadau pellach o dan y cod gweinidogol, mae gan Johnson y pŵer i'w rwystro o hyd.

Mae Keir Starmer, arweinydd y blaid Lafur, wedi cyhuddo Johnson o dorri’r cod gweinidogol trwy wneud datganiadau camarweiniol wedi iddo wadu honiadau am bartïon yn Rhif 10.

“Mae’r cod hwnnw’n dweud y bydd disgwyl i weinidogion sy’n camarwain y senedd yn fwriadol gynnig eu hymddiswyddiad,” meddai Starmer wrth ASau.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.