Newyddion S4C

Boris Johnson yn ymddiheuro wrth i Keir Starmer alw am ei ymddiswyddiad

12/01/2022
Boris Johnson - Llun Rhif 10

Mae arweinydd y blaid Lafur Syr Keir Starmer wedi galw ar y Prif Weinidog i Boris Johnson i ymddiswyddo wedi iddo gyfaddef iddo fynychu digwyddiad yng ngardd Rhif 10 Downing Street ar 20 Mai 2020.

Wrth ymateb i gwestiynau gan Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher, fe ymddiheurodd Mr Johnson am fynychu'r digwyddiad.

Ond, roedd y Prif Weinidog yn honni mai digwyddiad gwaith oedd hwn ac fe fynychodd i ddiolch i'w staff.

Mae Arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Douglas Ross, wedi galw ar Boris Johnson i ymddiswyddo.

"Rwyf am ymddiheuro. Rwy'n gwybod fod miliynau o bobl ar draws y wlad wedi aberthu cymaint yn ystod y 18 mis diwethaf," meddai Boris Johnson.

"Rwyf yn gwybod y boen maen nhw wedi ei brofi, yn methu galaru am eu perthnasau, yn methu byw eu bywydau fel yr oedden nhw’n dymuno, neu wneud y pethau maen nhw’n eu caru.

"O edrych yn ôl, fe ddylwn i wedi anfon pawb yn ôl tu fewn, fe ddylwn fod wedi darganfod ffordd arall i ddiolch iddynt a hyd yn oed os fedrai hyn fod o fewn y cyngor yn dechnegol, fe fydd miliynau a miliynau o bobl na fyddai’n ei weld yn yr un ffordd."

Daeth honiadau ei fod wedi mynychu parti yng ngardd Rhif 10 Downing Street ar 20 Mai 2020 i'r fei nos Lun.

Roedd hawl gan ddau berson yn unig i gwrdd yn yr awyr agored yn Lloegr ar y pryd oherwydd y cyfyngiadau a gyflwynwyd gan y llywodraeth yno i ymateb i'r pandemig.

Cafodd gwahoddiad ar ffurf e-bost ei ryddhau gan ITV News oedd yn gwahodd 100 o staff i barti yn Downing Street er mwyn "gwneud y gorau o'r tywydd braf".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru eisoes wedi galw ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo yn sgil yr honiadau a ddaeth i'r amlwg yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae ymchwiliad eisoes ar waith, gyda'r gweithiwr sifil Sue Gray, yn edrych i'r honiadau o bartïon tra bo'r wlad wedi cael gwybod i aros adref.

Dywedodd Mr Johnson ei fod am aros am ganlyniad yr ymchwiliad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.