Penderfyniad ar gynnal y Sioe Fawr i’w wneud erbyn mis Mawrth

Penderfyniad ar gynnal y Sioe Fawr i’w wneud erbyn mis Mawrth

Bydd rhaid gwneud penderfyniad ynglŷn â chynnal y Sioe Frenhinol eleni erbyn mis Mawrth, yn ôl cadeirydd newydd Cyngor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Ar ôl canslo'r sioe amaethyddol ddwywaith yn olynol, mae’n anodd meddwl am orfod gwneud hynny am y trydydd tro yn ôl Nicola Davies.

“Cafodd y penderfyniad i ganslo’r sioeau blaenorol eu gwneud erbyn mis Mawrth felly i ni'n prysur agosáu at yr amser tyngedfennol hynny pan fydd penderfyniad yn gorfod cael ei neud gan y bwrdd.

“Mae'r paratoadau yn mynd rhagddi, mae'n rhaid i ni obeithio.”

Ms Davies yw’r ddynes gyntaf i gael ei hethol yn gadeirydd Cyngor Cymdeithas Sioe Amaethyddol Cymru.

'Ansicrwydd'

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C dywedodd ei bod yn gobeithio adeiladu ar ei chyfraniad fel is-gadeirydd y cyngor.

“Fi yn gobeithio bydda i'n dod â'r agosatrwydd yna i'r sioe, 'wy wedi dod lan trwy system y sioe a gobeithio bod yr adnabyddiaeth yna sydd genna i o'r sioe, a'r aelodau, a'r stiwardiaid gobeithio  . . . bydd yn esgor ar rywbeth bydd yn parhau i fod yn gynhesrwydd wrth i bobl ddod i'n plith ni yn Llanelwedd.”

Eglurodd Ms Davies bod y pandemig wedi ychwanegu at yr ansicrwydd sy’n wynebu’r sector amaethyddol.

“Se chi'n edrych ar rywun yn y diwydiant llaeth a rhywun sydd â gwartheg, ma’ TB yn hynod o bwysig, wedyn petase chi'n edrych ar yr elfen amaethyddol gyda'r ieir ,wel ma' gyda chi'r ffliw adar, mae hefyd ansicrwydd ynglŷn â’r cymorth ariannol.

“Felly ma'r gymdeithas amaethyddol â chymaint o wahanol rinweddau iddi, sydd â chymaint o wahanol broblemau yn mynd gyda'r gwahanol rinweddau unigol hynny.

“Ond gobeithio gyda'n gilydd, gyda chymorth y gymdeithas, gan gydweithio ac undebau a’r llywodraeth, gobeithio byddwn ni'n gallu esgor ar ddyfodol disglair i amaethyddiaeth.”

LLun: Twitter/@royalwelshshow

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.