
Dim torfeydd yn ystod y Chwe Gwlad yn ‘ddinistriol’ i Gaerdydd

Dim torfeydd yn ystod y Chwe Gwlad yn ‘ddinistriol’ i Gaerdydd
Fe allai peidio â chynnal gemau Chwe Gwlad Cymru o flaen torfeydd yng Nghaerdydd gael effaith "ddinistriol" ar fusnesau'r brifddinas.
Mae disgwyl i Gymru chwarae tair gêm gartref yn Stadiwm Principality, ond mae'r rheolau Covid-19 presennol yma'n golygu na fydd torf yn gallu bod yno.
Mae aelod blaenllaw o'r byd rygbi rhyngwladol wedi awgrymu y dylid symud gemau rygbi Cymru yn y bencampwriaeth i Loegr er mwyn osgoi cyfyngiadau Covid-19.
Dywedodd perchennog tafarn The City Arms, sydd gyferbyn â’r stadiwm y gallai golli miloedd os byddai torfeydd ddim yn cael bod yn bresennol.
“I mi'n bersonol yn y City Arms ni’n edrych rhwng tua £12,000 a £15,000 ar ddiwrnod gêm,” meddai Gary Corp.
“O gofio bod dros 70,000 yn Stadiwm Principality mae’n golygu bod cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yng nghanol y ddinas o tua 100,000."

'Effaith bwysig iawn'
Mae ymchwil yn awgrymu bod pob gêm Chwe Gwlad yng Nghaerdydd yn hybu economi Cymru o tua £20m.
Mae disgwyl i Gymru wynebu'r Alban, Ffrainc a'r Eidal yn y brifddinas yn ddiweddarach.
Yn ôl Dr Leon Gooberman o Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd mae’r bencampwriaeth yn cael “effaith bwysig iawn” ar economi’r brifddinas a Chymru.
“Un o'r pethau arall sy'n bwysig am y Chwe Gwlad ydy ei fod yn digwydd ym mis Chwefror a mis Mawrth pan mae twristiaeth yn eithaf distaw ledled Cymru," meddai.
“Felly mae'n cael mwy o effaith ar economi Cymru yn ystod y misoedd hyn.”

Caniateir 5,000 o gefnogwyr mewn digwyddiadau chwaraeon yn Iwerddon a Ffrainc.
Mae hawl i hyd at 500 o bobl fynychu digwyddiadau awyr agored yn yr Alban.
Er nad oes cyfyngiadau ar faint y dorf yn yr Eidal ar hyn o bryd, ers mis Rhagfyr mae angen i bobl sy'n mynychu digwyddiadau chwaraeon brofi eu bod wedi'u brechu neu wedi gwella o Covid-19.
Does dim cyfyngiadau ar niferoedd yn Lloegr.
'Colli allan'
Yn ôl aelod o staff yng nghaffi Fabulous Welshcakes, penwythnosau'r Chwe Gwlad yw'r rhai prysuraf.
“Gan fod y stadiwm rownd y gornel mae pobl yn dod fewn cyn ac ar ôl y gêm i brynu Welsh Cakes,” eglura Eleni Jones.
“Ma'r atmosffer ar ddiwrnod rygbi yn hollol wahanol i benwythnos arferol felly ma' llawer o fusnesau yn mynd i golli allan ar lawer o fusnes.”
Byddai diffyg torfeydd hefyd yn effeithio ar siopau eraill ar y stryd fawr yn ôl perchennog ShopRugby Jonathan Williams.
“Mae’r torfeydd enfawr sydd yn dod i'r dref yn gwario miloedd, nid yn unig ar ddiwrnod y gêm ond ar y diwrnodau sy'n arwain i’r gêm ac ar y dydd Sul ar ôl.
“Mae’n hanfodol bod y gemau yma ymlaen gyda thorfeydd.”