'Dim ymchwiliad o'r newydd' i waith adnewyddu fflat Downing Street

Ni fydd ymchwiliad newydd yn cael ei gynnal i waith adnewyddu ar fflat Downing Street, yn ôl Rhif 10.
Nid oes disgwyl y bydd y comisiynydd ar safonau seneddol, Kathryn Stone, yn cynnal ymchwiliad o'r newydd i'r prosiect.
Cafodd y prosiect ei ariannu'n wreiddiol gan y cefnogwr ariannol i'r Ceidwadwyr David Brownlow ac roedd y Prif Weinidog wedi ei gyhuddo o beidio â bod yn dryloyw ynghylch y gwaith.
Yn ôl The Guardian, dywedodd llefarydd ar ran Boris Johnson nad oedd am siarad ar ran Ms Stone ond ei bod wedi cadarnhau na fydd hi'n edrych ar y fflat.
Y gred yw bod Ms Stone wedi anfon llythyr at y Prif Weinidog wythnos diwethaf gan ddatgelu nad oedd hi'n bwriadu cynnal ymchwiliad pellach.
Darllenwch fwy ar y stori yma.
Llun: Rhif 10