Novak Djokovic yn ennill ei apêl yn Awstralia

Novak Djokovic Llun Mirasha (Flickr)

Mae Novak Djokovic wedi ennill ei apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod gadael iddo gael fisa i ymweld ag Awstralia ar gyfer pencampwriaeth denis.

Clywodd llys yn Awstralia ddydd Llun fod swyddogion y ffin yno wedi dyfarnu'n flaenorol nad oedd y seren tenis yn bodloni'r meini prawf ar gyfer ei eithrio ar gyfer mynediad i'r wlad yn sgil Covid-19.

Roedd Djokovic wedi treulio pedair noson mewn gwesty hunan ynysu yn Awstralia cyn y gwrandawiad rhithiol.

Mae rheolau'r wlad yn datgan nad oes gan unigolion sydd ddim yn ddinasyddion hawl i gael mynediad i'r wlad oni bai eu bod wedi'i brechu'n llawn yn erbyn Covid-19.

Honnodd y chwaraewr tenis y dylai fod wedi cael caniatâd i gael mynediad am ei fod "wedi cael ei heintio'n ddiweddar â Covid ym mis Rhagfyr 2021 ac ar y sail yma . . . hawl i gael eithriad meddygol yn unol â rheolau a chanllawiau llywodraeth Awstralia".

Darllenwch fwy am y stori yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.