Covid-19: DU yn cofnodi dros 150,000 o farwolaethau ers dechrau'r pandemig

Mae'r ffigyrau dyddiol diweddaraf yn dangos fod y Deyrnas Unedig wedi cofnodi dros 150,000 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 ers dechrau'r pandemig.
Dywedodd llywodraeth y DU ddydd Sadwrn fod 313 o bobl yn ychwanegol wedi marw o fewn 28 diwrnod i brofi’n bositif o Covid-19 gan godi'r cyfanswm o farwolaethau i 150,057
Y DU yw’r seithfed wlad i gofnodi 150,000 o farwolaethau ar ôl yr UDA, Brasil, India, Rwsia, Mecsico a Pheriw.
Yn ôl The Guardian, mae ystadegau ar wahân gan y swyddfa ystadegau cenedlaethol (ONS) yn nodi 174,000 o farwolaethau wedi eu cofnodi yn y DU lle'r oedd sôn am Covid-19 ar y dystysgrif marwolaeth.
Yn Ionawr 2021 y DU oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i gofnodi dros 100,000 o farwolaethau Covid.
Ni chafodd y ffigyrau dyddiol ar gyfer Cymru ei rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sadwrn.
Darllenwch y stori yn llawn yma.