Newyddion S4C

Dim newid i gyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru

07/01/2022
Stryd y Frenhines, Caerdydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd newid yn y cyfyngiadau Covid-19 am y tro.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi nos Iau, y bydd mesurau Lefel Rhybudd Dau yn aros yn eu lle yng Nghymru yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod mwy na 2,200 o achosion fesul 100,000 o bobl yng Nghymru yn dilyn y cynnydd yn achosion yr amrywiolyn Omicron.

Bydd mesurau sydd eisoes ar waith yn parhau, gan gynnwys y rheol "chwe pherson" mewn lleoliadau cyhoeddus gan gynnwys lleoliadau lletygarwch.

Bydd rhaid parhau i wisgo gorchudd wyneb, oni bai bod esgus rhesymol am beidio, ymhob lleoliad cyhoeddus dan do.

Dim digwyddiad wedi'i drefnu sy'n cynnwys dros 30 o bobl dan do neu 50 o bobl yn yr awyr agored.

Fe ddylai pobl barhau i weithio o adref os ydynt yn medru.

Bydd angen i bobl sy'n profi'n bositif am Covid-19 barhau i hunan-ynysu am saith diwrnod os ydynt yn cael canlyniadau negyddol ar ddiwrnodau chwech a saith o'r cyfnod, neu am hyd at 10 diwrnod fel arall.

Ddydd Iau fe alwodd y Ceidwadwyr Cymreig am fwy o gefnogaeth ariannol i fusnesau sydd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau yng Nghymru.

Dywedodd Mr Drakeford: “Mae'r don Omicron yn golygu ein bod ni i gyd yn wynebu mis anodd o'n blaenau. Rydym eisoes yn gweld cyfraddau eithriadol o uchel o achosion mewn cymunedau a rhaid inni fod yn barod i achosion godi hyd yn oed yn uwch, yn union fel y maent mewn mannau eraill yn y DU.

“Mae’n bosibl nad yw'r amrywiolyn hwn mor ddifrifol ag yr oeddem wedi'i ofni i ddechrau ond mae'r cyflymder y mae'n teithio a pha mor heintus ydyw yn parhau i fod yn destun pryder.

“Mae hynny'n ei gwneud yn hanfodol ein bod i gyd yn cymryd camau i ddiogelu ein  gilydd. Bydd y pethau sydd wedi helpu i'n diogelu ni i gyd drwy gydol y pandemig yn parhau i'n diogelu yn awr.

“Mae hyn yn cynnwys cael eich brechu a gwneud eich pigiad atgyfnerthu yn flaenoriaeth, cyfyngu ar nifer y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw nad ydych chi'n byw gyda nhw, a chymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan a chymysgu ag eraill."

Mae 698,962 achos positif a 6,605 o farwolaethau wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig yng Nghymru erbyn hyn.

Hyd yma mae 2,493,502 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,311,284 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,682,525 o bobl wedi derbyn eu brechiad atgyfnerthu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.