Newidiadau i deithio rhyngwladol yn dod i rym

07/01/2022
maes awyr

Nid oes yn rhaid i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn a phobl dan 18 oed sy'n teithio i Gymru o dramor wneud prawf Covid-19 cyn gadael neu brawf PCR ar ôl cyrraedd.

Daeth y newidiadau i rym am 4:00 ddydd Gwener.

Mae gofyn i deithwyr sy’n teithio i Gymru wneud prawf llif unffordd ar ddiwrnod dau ar ôl cyrraedd y wlad.

Mae’r newid hefyd yn golygu nad oes rhaid hunan-ynysu cyn cael canlyniad negatif, ond os yw'r prawf yn bositif bydd angen i deithwyr gael prawf PCR ac ynysu.

Bydd profion llif unffordd yn cael eu derbyn fel profion ar ôl cyrraedd y wlad o ddydd Sul, 9 Ionawr.

Dyw’r rheolau i deithwyr sydd heb eu brechu yn llawn ddim wedi newid.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio ei bod yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor ar hyn o bryd oni bai bod hynny’n hanfodol.

‘Gweithio ar draws y pedair gwlad’

Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ei bod yn gwneud y newidiadau yn "anfoddog".

“Mae’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn ail agor teithiau rhyngwladol mor gyflym yn peri pryder i ni, gan ystyried y pryderon parhaus ynghylch cludo amrywiolion newydd a rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau iechyd.

“Mae profion PCR diwrnod 2 yn gweithio fel rhyw faith o system fonitro ar gyfer teithio rhyngwladol. Pe bawn wedi cadw’r gofyniad i wneud profion PCR ar ddiwrnod 2, mae’n bosibl y byddem wedi dod yn ymwybodol o bresenoldeb Omicron yn gynt.

“Gan ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu’r gofyniad i wneud profion PCR, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio ar draws y pedair gwlad i sicrhau bod system biofonitro yn cael ei chynnal i ddarparu ffordd o warchod yn erbyn cludo amrywiolion yn y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.