Newyddion S4C

Cyhoeddi newidiadau i'r system brofi i osgoi 'gorlethu'r labordai'

05/01/2022
Prawf Llif Unffordd Covid-19

Dylai pobl sydd heb eu brechu ac sydd wedi bod mewn cyswllt ag achosion positif Covid-19 bellach ddefnyddio profion llif unffordd yn lle profion PCR ar ddiwrnodau dau ac wyth o'u cyfnod 10 diwrnod yn hunan-ynysu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dod â’r newid hwn i rym ar unwaith yn y gobaith y bydd hyn yn helpu i gynyddu capasiti profion PCR.

Hefyd, ni fydd angen i bobl heb symptomau sy'n profi'n bositif yn dilyn prawf llif unffordd gymryd prawf PCR i gadarnhau o ddydd Iau ymlaen.

Mewn datganiad gan y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, dywedir bod capasiti Cymru o ran profion COVID-19 wedi “cynyddu’n sylweddol” yn labordai GIG Cymru ac yn rhan o raglen brofi’r DU, sef y rhaglen fwyaf yn Ewrop gyda bron i 400 miliwn o brofion PCR wedi’u cynnal ers dechrau’r pandemig.

Wrth i’r don Omicron ledu ar draws y wlad, mae’r galw am brofion PCR wedi cyrraedd lefelau uwch nag erioed ar draws y DU, meddai.

'Lleihau'r pwysau'

O ganlyniad i hyn, mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi cyfyngu ar yr archebion ar adegau er mwyn osgoi “gorlethu” labordai rhaglen y DU, ac effeithio ar amseroedd prosesu’r canlyniadau.

Dywed y Gweinidog fod archebion dyddiol mewn safleoedd profi ar draws Cymru wedi cyrraedd 28,000 ers dydd Nadolig – y lefel uchaf erioed.

Y disgwyl yw y bydd y newid hwn yn lleihau'r galw am brofion PCR o rhwng 5-15%.

Meddai’r Farwnes Morgan: “Rwyf wedi cytuno ar rai newidiadau i’w gwneud ar unwaith i’r system profion PCR a fydd yn helpu i leihau’r pwysau, a helpu i gynyddu mynediad ar gyfer y rheini sydd â symptomau ac sydd angen trefnu prawf.

“Mae staff y GIG a gofal cymdeithasol yn cael gafael ar brofion o’n labordai GIG Cymru. Mae’n bosibl y bydd angen i ni gyflwyno newidiadau pellach i gadw profion PCR ar gyfer gweithwyr allweddol drwy raglen brofi’r DU os bydd y galw’n parhau i godi yn y diwrnodau a’r wythnosau nesaf.

“Mae’n bosibl y bydd angen i ni hefyd gyflwyno ymyriadau brys dros dro ar gyfer unigolion symptomatig nad ydynt yn agored i niwed er mwyn rheoli’r galw ac amddiffyn capasiti er mwyn dod o hyd i’r achosion sydd fwyaf tebygol o arwain at niwed.

“Rydym yn cydnabod y bydd y newidiadau hyn, o bosibl, yn cynyddu’r galw am brofion llif unffordd. Nid oes unrhyw broblemau gyda chyflenwadau ar hyn o bryd, ond rydym yn ymwybodol o broblemau dosbarthu i rai mannau casglu gan gynnwys fferyllfeydd."

Wrth ymateb i'r newidiadau, dywedodd y Gweinidog Cysgodol dros Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russel George: "Rydym yn croesawu'r newid yma am ddau reswm."

"Yn gyntaf, fe fydd yn cynnal y cyflenwad gwerthfawr o brofion PCR ac, yn ail, fe fydd yn cynnal cysondeb ar draws y Deyrnas Unedig." 

"Wrth gwrs dydy'r profion ddim yn curo'r feirws. Rydym yn ond yn medru gwneud hyn trwy frechlynnau a dylai pawb sydd yn gymwys cymryd y cyfle i dderbyn eu brechlyn atgyfnerthu mor gynted â phosib."

Ac yn unol â phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ei bod hi heddiw, "yn anfoddog, wedi cytuno i ddileu’r gofynion i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn a phobl dan 18 oed wneud prawf cyn ymadael a phrawf PCR diwrnod dau pan fyddant yn cyrraedd y DU."

Mewn datganiad, dywedodd y Farwnes Morgan: "Bydd angen i bob teithiwr sydd wedi’i frechu’n llawn wneud prawf dyfais llif unffordd (LFD) ar ddiwrnod dau, ac os bydd yn bositif, prawf PCR dilynol er mwyn galluogi dilyniant genom i gael ei gynnal. Mae’r gofyniad i hunanynysu hyd nes y ceir prawf negatif hefyd wedi cael ei ddileu."

Mae’r gofynion ar gyfer teithwyr sydd heb eu brechu yn parhau heb eu newid.

Bydd y newidiadau hyn dechrau dod i rym o 04:00 ddydd Gwener 7 Ionawr. Caiff profion llif unffordd eu derbyn fel profion ar ôl cyrraedd o 04:00 ddydd Sul 9 Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.