Newidiadau i sgrinio serfigol: Iechyd Cyhoeddus Cymru'n ymddiheuro am 'achosi pryder'
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro am beidio "gwneud digon" i esbonio newidiadau i sgrinio serfigol yng Nghymru, a'r pryder yr oedd hyn wedi ei achosi.
Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd y sefydliad y byddai Sgrinio Serfigol Cymru yn ymestyn y bwlch sgrinio arferol i bobl rhwng 25 a 49 oed o dair i bum mlynedd, os nad oedd feirws papiloma dynol (HPV) yn eu prawf ceg y groth.
Roedd hyn yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn 2019, gan ddod â'r cyngor ar gyfer y grŵp oedran hwn yn unol â'r bwlch sgrinio ar gyfer y grŵp oedran 50-64 oed.
Fe ddaeth y newid i rym ar 1 Ionawr ac roedd unrhyw lythyrau canlyniad o'r dyddiad hwnnw ymlaen yn cynghori derbynwyr y byddai pum mlynedd tan eu hapwyntiad nesaf.
Yn dilyn y cyhoeddiad fe gafwyd ymateb chwyrn i'r newyddion, gyda 120,000 o bobl yn llofnodi deiseb yn gwrthwynebu'r newid mewn 24 awr.
Mae'n ddrwg gennym nad ydym wedi gwneud digon i esbonio'r newidiadau i sgrinio ceg y groth ac wedi achosi pryder. Rydym yn gweithio i wneud hyn yn gliriach a bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn gynted ag y gallwn heddiw ac yn y dyddiau nesaf. pic.twitter.com/cNdmMiRCIy
— Iechyd Cyhoeddus Cymru (@IechydCyhoeddus) January 5, 2022
Fore dydd Mercher fe ymddiheurodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ddweud nad oeddynt wedi gwneud digon i esbonio'r newidiadau i sgrinio serfigol ac roedd hyn wedi creu pryder.
"Rydym yn gweithio i wneud hyn yn gliriach a bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn gynted ag y gallwn heddiw ac yn y dyddiau nesaf."
Mae tua 160 o achosion o ganser ceg y groth yn cael diagnosis bob blwyddyn yng Nghymru a dyma'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod o dan 35 oed.
Llun: Ymddiriedolaeth Jo ar Ganser Ceg y Groth