Cyhoeddi cytundeb cyfrinachol rhwng cyhuddwraig y Tywysog Andrew a Jeffrey Epstein

Mae dogfennau cyfreithiol y mae cyfreithiwr y Tywysog Andrew yn credu y byddant yn atal yr achos o droseddau rhyw sifil yn ei erbyn wedi cael eu cyhoeddi.
Mae Virginia Guiffre, a adnabyddir hefyd fel Virginia Roberts, yn ceisio dwyn achos yn erbyn y tywysog 61 oed am ymosodiad rhyw honedig pan oedd hi yn ei harddegau.
Ond roedd cyfreithiwr Dug Efrog, Andrew B Brettler, wedi dadlau y byddai'r cytundeb a wnaed yn 2009 gyda Epstein, yn dod ag unrhyw anghydfod i ben.
Mae’r tywysog eisoes wedi cydnabod fod ganddo gysylltiadau gydag Epstein, a laddodd ei hun mewn carchar yn America yn 2019,
ond mae Tywysog Andrew yn gwadu unrhyw gyhuddiad yn ei erbyn.
Iawndal
Mae'r dogfennau - a gyhoeddwyd ddydd Llun gan lys yn Efrog Newydd - yn datgan bod Ms Giuffre wedi cytuno i beidio ag erlyn unrhyw un sy'n gysylltiedig ag Epstein y gellid ei ddisgrifio fel "diffynnydd posibl" - er nad yw'n enwi'r tywysog yn uniongyrchol.
Mae’r papurau yn datgan bod Epstein wedi talu $500,000 i Ms Giuffre (£371,000) i ddod â'i chais am iawndal i ben.
Mae Ghislaine Maxwell, cyn-gariad Epstein a chyfaill i’r Dug, yn wynebu treulio gweddill ei bywyd yn y carchar ar ôl iddi gael ei chanfod yn euog wythnos ddiwethaf am ei rhan mewn troseddau rhyw yn erbyn merched ifanc.
Mwy am y stori yma.