Y BBC yn lansio tri chasgliad i nodi 100 mlwyddiant
03/01/2022
Llun o gast Pobol y Cwm yn dathlu yn y Deri Arms, Nadolig 1990
Mae’r BBC wedi lansio tri chasgliad i nodi ei 100 mlwyddiant.
Mae’r casgliadau yn cynnwys lleisiau artistiaid, props, a lluniau o bersonoliaethau, er mwyn cyfleu hanes ‘canrif o ddarlledu’.
• Mae’r casgliad 100 o Wrthrychau yn cynnwys hen offer technegol fel meicroffonau, props o rai o’r rhaglenni mwyaf poblogaidd, dogfennau a gwaith celf.
• Mae’r casgliad 100 o Wynebau yn cynnwys lluniau o’r archif o rai o bersonoliaethau amlycaf y BBC dros y blynyddoedd
• Ac mae’r casgliad ‘100 o Leisiau’ yn adrodd stori rhai o arloeswyr y gwasanaeth.
Mwy am y stori yma.