Gerwyn Price yn galw ar Bencampwriaeth Dartiau'r Byd i ddod i Gymru

Mae’r chwaraewr dartiau Gerwyn Price wedi galw ar Bencampwriaeth Dartiau'r Byd y PDC i gael ei chynnal yng Nghymru.
Yn ôl Golwg360, daw'r sylwadau ar ôl i Price golli yn rownd yr wyth olaf yn y gystadleuaeth ddydd Sadwrn.
Bu rhaid i Price ymdopi a thorf heriol yn yr Alexandra Palace yn Llundain, gyda sylwadau gwrth-Gymreig yn cael eu hanelu tuag ato trwy gydol y twrnamaint.
“Mae hi ond yn deg os yw Pencampwriaeth y Byd yn cael ei chynnal ym mhob gwlad,” meddai yn dilyn ei golled yn erbyn Michael Smith o Loegr.
“Cymru, yr Alban, Iwerddon, Lloegr, Ewrop.
“Cymru y flwyddyn nesaf, plis.” ychwanegodd Price.
Darllenwch mwy yma.