Busnesau yn dioddef yn sgil gwaith ffordd ger Merthyr Tudful

Wales Online 03/01/2022
Gwaith ffyrdd

Mae busnesau lleol wedi dweud eu bod yn dioddef gostyngiad yn eu cwsmeriaid oherwydd gwaith ffordd mewn pentref ger Merthyr Tudful. 

Mae Cefn-Coed y Cymmer ar ffin Parc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog, ac fel arfer yn mwynhau busnes cyson gan yrwyr a seiclwyr sy’n ymweld â'r parc. 

Ond yn ôl WalesOnline, mae gwaith ar ffordd yr A465 yn golygu fod y brif ffordd drwy'r pentref ar gau, gan leihau'r nifer o ymwelwyr yn sylweddol. 

Dywedodd un perchennog caffi bod y nifer o gwsmeriaid wedi lleihau tua thraean ers i'r gwaith dechrau gan ddweud bod y pentref y "hollol wag" yn ystod yr wythnos. 

Mae disgwyl i'r gwaith ffordd barhau dros y pedair blynedd nesaf, ac felly yn achosi pryderon yn lleol dros ddyfodol busnesau yn y pentref.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.