Newyddion S4C

Dyn wedi'i hedfan i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Y Bala

02/01/2022
Heddlu

Mae dyn wedi derbyn anafiadau sy'n peryglu ei fywyd yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Bala ddydd Sul.

Roedd un car, Jaguar F-Pace oren, yn rhan o'r gwrthdrawiad ar ffordd A4212 yn Arenig ychydig cyn 12:20.

Cafodd gyrrwr y Jaguar, dyn yn ei 50au, ei gludo mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty yn Stoke.

Dywedodd y Sarjant Jason Diamond o Uned Blismona'r Ffyrdd fod Heddlu'r Gogledd yn credu y gallai'r Jaguar fod wedi gyrru heibio rhai ceir cyn y gwrthdrawiad.

Mae'r llu yn apelio am wybodaeth gan yrwyr a llygad-dystion ac unrhyw ddeunydd o gamera dashfwrdd a fedrai fod o gymorth i'r ymchwiliad.

Roedd y ffordd yn parhau ar gau brynhawn dydd Sul.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.