NFT: Ai dyma'r dyfodol digidol i gelf?
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cerddorion ledled y byd wedi bod yn defnyddio dyfais ddigidol o'r enw NFT i werthu eu gwaith.
Er fod NFT yn syniad eithaf newydd, mae wedi denu sylw nifer ym myd y celfyddydau, ac mae hefyd wedi bod yn ffrwd incwm i lawer.
Yn mis Mawrth, fe werthodd yr artist digidol, Beeple, NFT o’i waith am $69 miliwn.
Ond beth yw NFT a pham ei fod yn derbyn cymaint o sylw?
Yn syml, mae NFT (non-fungible tokens) yn ffordd ddigidol o werthu darn o gelf.
Yn hytrach na phrynu darlun neu gerflun, fe fydd y prynwyr yn derbyn tocyn digidol fydd yn sicrhau bod y darn o gelf yn unigryw iddyn nhw yn unig, wrth sicrhau hawlfraint cadarn ar waith yr artist.
Yn ôl y cerddor Griff Lynch, mae NFT yn gyfle i artistiaid a cherddorion gael "mwy o reolaeth dros eu celf" ac yn un o’r rhesymau y mae o wedi penderfynu creu tocyn digidol NFT ar gyfer ei sengl nesaf – 'Os Ti’n Teimlo'.
Dyma fydd NFT cyntaf Cymraeg ar ffurf cân, meddai.
“Mewn gwirionedd, dydi o ddim jyst am y celf,” dywedodd wrth NS4C.
“Mae’n ffordd o brynu fewn i cryptocurrency, ond hefyd yn ffordd o wneud rhywbeth yn gyfyngedig ac unigryw.
“Mae rhyddhau sengl fel cerddor yn gallu bod yn eithaf diflas – mae o’r r’un hen broses. Ti’n hysbysebu a rhannu ar gyfryngau cymdeithasol ac yna ym mynd ar y radio.
[Llun: Steffan Dafydd]
“O fewn tair wythnos ers ei ryddhau, mae pobol yn symud ymlaen yn sydyn.
“Mae’n anodd iawn gwneud pres yn y maes yma – y pres sydd yn mynd mewn i greu sengl neu albwm - yn anffodus gei di ddim lot ohono fo’n ôl.
“Gennai ddiddordeb mewn cryptocurrency yn barod a diddordeb mewn celf, felly mae hyn yn ffordd o gyfuno’r ddau.”
Ond a’i NFT yw dyfodol celf mewn byd lle mae pobl yn derbyn popeth ar flaen eu bysedd yn rhad ac yn rhwydd drwy Spotify a chyfryngau cymdeithasol?
“Mae’n anodd gwybod,” dywedodd Griff.
“Ond, os oes yna ddigon o bobl yn dangos diddordeb yn y syniad, yna mae ‘na ddyfodol dwi’n meddwl.
“Ond eto, pam bod pobl yn prynu celf i gychwyn?
“Ydy o oherwydd eu bod nhw’n licio’r celf, neu ydy o oherwydd eu bod nhw gyda’r arian i allu prynu a rhoi eu harian mewn i rywbeth?”
Llun o Griff Lynch gan Carys Huws.