Newyddion S4C

Beth yw'r cyfyngiadau Covid-19 newydd yng Nghymru?

28/12/2021
Mygydau / Covid / Ewrop / Yr Eidal / Pobl

Mae cyfyngiadau newydd wedi dod i rym yng Nghymru i ymateb i ledaeniad amrywiolyn Omicron.

Nid oes hawl gan fwy na 30 o bobl gwrdd dan do, gan gynnwys mewn cartrefi preifat.

Ni fydd mwy na 50 o bobl yn cael cwrdd yn yr awyr agored, gan gynnwys i wylio gemau chwaraeon cymunedol.

Bydd gemau chwaraeon nad ydynt yn rhai cymunedol ac sydd heb eu gohirio yn sgil Covid-19 yn cael eu chwarae'r tu ôl i ddrysau caeedig.

Mae clybiau nos wedi gorfod cau eu drysau a'r rheol "chwe pherson" bellach wedi dychwelyd i leoliadau lletygarwch, theatrau a sinemâu.

Mae mygydau yn orfodol yn rhan fwyaf o leoliadau cyhoeddus, gan gynnwys bysiau, siopau ac ysbytai.

Beth yw’r newid i reolau Covid yng Nghymru?

Fe ddaeth rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid i ben yng Nghymru ar 7 Awst ar ôl i’r wlad symud i lefel rhybudd sero. Roedd hyn yn golygu nad oedd cyfyngiadau ar faint o bobl oedd yn cael cwrdd gyda'i gilydd ac roedd gan bobl yr hawl i wahodd pwy bynnag yr hoffan nhw i'w cartrefi.

Ers i’r amrywiolyn Omicron ddod i’r amlwg yn y DU, mae’r cyngor yma wedi newid gyda Llywodraeth Cymru yn cynghori pobl i leihau cyswllt gydag eraill, yn enwedig pobl hŷn neu sy’n agored i niwed dros y Nadolig. 

Image
clwb
Ni fydd clybiau nos Cymru ar agor ar gyfer nos galan dan y cyfyngiadau newydd. 

Fe newidodd y cyngor i weithio o adref pan fydd hynny'n ymarferol o 20 Rhagfyr.

Ydw i’n cael mynd i’r gwaith?

Mae hi nawr yn drosedd i beidio â gweithio o adref os oes modd i chi wneud. 

Daeth y newid yma i rym ar 20 Rhagfyr gyda’r rheolau yn nodi y dylai pobl weithio o adref “lle mae’n ymarferol i wneud hynny”.

Fe allai gweithwyr wynebu dirwy o £60 am dorri’r rheol hon, gyda busnesau yn wynebu dirwyon o £1,000, ag y gallai gynyddu i £10,000. 

Image
swyddfa
Fe newidodd y cyngor i weithio o adref pan fydd hynny'n ymarferol cyn y Nadolig.

Ni fydd clybiau nos Cymru ar agor ar gyfer nos galan dan y cyfyngiadau newydd. 

Beth os oes gen i neu rywun rwy’n ei adnabod Covid?

Os ydych yn dod i gyswllt â rhywun sydd wedi profi'n bositif am Covid, ac nid ydych wedi eich brechu yn llawn, yna mae'n rhaid i chi hunanynysu o'r dydd y gwnaethoch ddod i gysylltiad â'r person yna am 10 diwrnod. Mi ddylai chi hefyd gymryd prawf PCR ar ddiwrnod dau ac wyth o'r cyfnod hunanynysu. 

Os ydych wedi eich brechu yn llawn neu rhwng pump a 17 oed, nid oes yn rhaid i chi hunanynysu pan fyddwch wedi dod i gyswllt â rhywun sydd gan Covid.

Ond rydych yn cael eich cynghori yn gryf i gymryd prawf llif unffordd bob diwrnod am o leiaf wythnos ac osgoi ymweld â phobl fregus yn ystod y cyfnod yma. 

Ydw i’n cael cwrdd â ffrindiau neu deulu?

Cyngor y llywodraeth yw i gymryd prawf llif unffordd cyn cymdeithasu, siopa ac ymweld ag eraill.

Maent hefyd yn annog pobl i gwrdd tu allan lle mae hynny’n bosib, ac i adael digon o amser rhwng ymweld â gwahanol bobl.

Beth am mewn bwyty neu dafarn?

Mae’r rheol "chwe pherson" bellach wedi dychwelyd i leoliadau lletygarwch, theatrau a sinemâu ers 26 Rhagfyr.

Bydd hi hefyd yn ofynol i leoliadau gynnig gwasanaeth bwrdd yn unig, fe fydd mygydau yn gorfod cael eu gwisgo oni bai am pan fyddwch yn eistedd, ac mi fydd yn rhaid darparu manylion cyswllt ac olrhain.

Mae cyfyngiadau newydd ar faint o bobl sy’n cael cwrdd mewn digwyddiadau torfol, gyda’r terfyn yn 50 y tu allan neu 30 dan do.

Dyw hyn ddim yn berthnasol i glybiau nos, serch hynny, sydd wedi gorfod cau eu drysau ers Ddydd San Steffan.

Mae arbenigwyr yn meddwl bod amrywiolyn Omicron yn lledaenu'n gyflymach nag amrywiolyn Delta.

Serch hynny, mae sawl astudiaeth yn awgrymu bod y risg o bobl yn mynd yn ddifrifol wael a gorfod cael eu cludo i'r ysbyty dipyn yn is.

Mae'r llywodraeth ac asiantaethau iechyd yn pwysleisio ar bobl i gael eu brechiad atgyfnerthu, gyda tharged i gynnig brechiad i bawb dros 18 oed erbyn diwedd mis Rhagfyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.