
Y byd yn rhoi teyrngedau i'r ymgyrchydd gwrth-apartheid, Desmond Tutu

Mae rhai o ffigyrau mwyaf amlwg y byd wedi rhoi teyrngedau i gyn-archesgob De Affrica ac un o eiconau’r frwydr yn erbyn apartheid, Desmond Tutu.
Bu farw Tutu, oedd yn fardd Gwobr Heddwch Nobel, ddydd Sul yn 90 mlwydd oed.
Mae cyn-arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama wedi disgrifio'r Archesgob Tutu fel "mentor, ffrind a chwmpawd moesol".
Mewn neges dywedodd yr Arlywydd Cyril Ramaphosa: “Mae marwolaeth yr Archesgob Emeritws Desmond Tutu yn bennod arall o brofedigaeth ym mhroses ein cenedl o ffarwelio â chenhedlaeth o Dde Affrica sydd wedi rhoi De Affrica rydd i ni.”
Ni chafodd rhagor o wybodaeth am fanylion y farwolaeth ei gyflwyno gan yr arlywyddiaeth.
Mae Aljazeera yn adrodd fod Tutu wedi cael diagnosis o gancr y prostad yn y 90au, ac mewn blynyddoedd diweddar, bu yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth am heintiau oedd yn gysylltiedig â’r driniaeth cancr.
Dywedodd pennaeth dros dro ymddiriedolaeth Tutu, Dr Ramphela Mamphele: “Yn y pen draw, yn 90 oed, bu farw’n heddychlon yng Nghanolfan Gofal i’r Eiddil Oasis yn Cape Town y bore yma.”
Caiff Tutu ei adnabod fel un o gymodwyr cenedl oed wedi ei rhannu yn sgil degawdau o wleidyddiaeth hiliol.
Yn 1984 enillodd y Wobr Heddwch Nobel am ei wrthwynebiad di-drais yn erbyn apartheid.

Dywedodd Mr Obama: "Roedd yr Archesgob Tutu wedi'i seilio ar y frwydr dros ryddid a chyfiawnder yn ei wlad ei hun, ond roedd hefyd yn ymwneud ag anghyfiawnder ym mhobman."
"Ni wnaeth o fyth golli ei synnwyr digrifwch direidus a'i barodrwydd i ddod o hyd i ddyngarwch yn ei wrthwynebwyr, a bydd Michelle a minnau'n gweld ei eisiau'n fawr."
Dywedodd y Frenhines Elisabeth II: "Fe fydd colled yr Archesgob Tutu yn cael ei deimlo gan bobl Dde Affrica a chymaint o bobl ym Mhrydain Fawr, Gogledd Iwerddon a'r Gymanwlad, lle'r oedd yn uchel iawn ei barch."
Cymru'n cofio
Mae rhai o ffigyrau crefyddol Cymru hefyd wedi rhoi teyrnged i Desmond Tutu.
Fe ddiolchodd Archesgob yr Eglwys yng Nghymru, Andy John ar ran yr eglwys am fywyd yr Archesgob Tutu.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei fod yn berson o egni diddiwedd, hiwmor, dewrder a chariad. Da Was, da a ffyddlon."
The Church in Wales gives thanks for the life of Archbishop Desmond Tutu. A person of inexhaustible energy, humour, courage and love. Da Was, da a ffyddlon.
— Bishop of Bangor (@BishopBangor) December 26, 2021
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: srichinmoycentre