
Mark Drakeford: 'Rhaid bod yn obeithiol yn y flwyddyn newydd'

Mark Drakeford: 'Rhaid bod yn obeithiol yn y flwyddyn newydd'
"Mae'n rhaid i ni fod yn obeithiol" wrth edrych i'r flwyddyn newydd, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Rhybuddiodd Mark Drakeford y bydd dechrau 2022 yn gyfnod "heriol" oherwydd amrywiolyn Omicron.
Ond wedi hynny, dywedodd ei fod yn hyderus o allu cyflwyno polisïau fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywyd bob dydd pobl.
Daeth y sylwadau wrth i Mr Drakeford edrych yn ôl dros flwyddyn sydd wedi bod "yn anodd i bawb".
"Mae’r coronafeirws wedi bod gyda ni dros y flwyddyn i gyd ac mae hwnna yn creu cyd-destun ble mae pobl yn becso am y dyfodol," meddai.
"Ond mae nifer o bethau sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn sydd wedi bod yn ddigon llwyddiannus," ychwanegodd gan gyfeirio at yr economi a'r modd yr oedd pobl yn gallu mwynhau'r haf wrth i gyfyngiadau gael eu llacio.
Etholiad anarferol
Llwyddiant arall i Mr Drakeford wrth gwrs oedd ennill yr etholiad i Senedd Cymru ym mis Mai wrth i'r blaid Lafur ennill union hanner y seddi ym Mae Caerdydd.
Y Ceidwadwyr ddaeth yn ail a Phlaid Cymru'n drydydd – gydag un o gyn-arweinwyr y Blaid Leanne Wood yn cael siom yn y Rhondda.
Ac wrth i’r etholwyr wrthod y ddadl dros ddiddymu’r sefydliad, dal eu gafael ar un sedd wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol - buddugoliaeth y cyn-Aelod Seneddol Jane Dodds yn sicrhau y byddai gan y blaid bresenoldeb o hyd ym Mae Caerdydd ar ôl i'r cyn-weinidog addysg Kirsty Williams ildio'i sedd.

"Pan roeddwn i'n cyrraedd yma fi oedd yr unig Ryddfrydwr ac yn teimlo dipyn bach fel Billy No-mates," meddai Ms Dodds wrth edrych nol ar eu dyddiau cynnar yn y Bae.
"Ond mae'n lle ble mae pawb yn helpu, ges i groeso mawr gan bawb a dweud a gwir, a rwan dwi'n deall beth sy'n mynd ymlaen."
A sut mae Bae Caerdydd yn cymharu â San Steffan?
"Mae'n hollol wahanol. Mae pawb yn edrych ar sut allwn ni gydweithio ar bethau sy'n bwysig i bobl yng Nghymru.
Ar ddechrau'r flwyddyn y blaid Geidwadol gipiodd y penawdau gwleidyddol.
'Wedi bod yn rollercoaster'
Fe ymddiswyddodd Paul Davies fel arweinydd y grwp Torïaidd ar ôl iddi ddod i'r amlwg ei fod e'n un o bedwar Aelod oedd wedi yfed alcohol ar dir y Senedd ym mis Rhagfyr, a hynny'n groes i'r cyfyngiadau Covid ar y pryd.
Ac felly mi ddychwelodd hen law at lyw y Ceidwadwyr - Andrew RT Davies yn ailgydio’n yr awenau lai na thair blynedd ers rhoi'r gorau i'r swydd.
"Mae e wedi bod yn rollercoaster fel mae'n dweud," meddai'r Ceidwadwr Sam Kurtz gafodd ei ethol am y tro cyntaf ym mis Mai.

"We'n i byth yn meddwl bod bachgen ifanc o'r gorllewin yn gallu eistedd yma ym Mae Caerdydd yng nghanol y broses ddemocrataidd yng Nghymru a dwi'n bles iawn am 'ny.
"Ond fel plaid Geidwadol mae'n rhaid i ni edrych mewn aton ni'n hunen nawr, gofyn y cwestiynau anodd: beth mae pobl Cymru moyn yn y dyfodol?"
Camgymeriadau a chytundebau
Ym mis Hydref un arall o aelodau newydd y Ceidwadwyr aeth â’r sylw.
Methodd Gareth Davies â chysylltu o bell mewn pryd i bleidleisio yn erbyn cyflwyno Pasys Covid, ac felly - er bod y gwrthbleidiau i gyd yn gwrthwynebu - pasio wnaeth y pasys.
Ond er gwaetha'r llwyddiant i'r llywodraeth roedd y bleidlais yn brawf pellach - os oedd angen - o'r trafferthion allai wynebu Mark Drakeford heb fwyafrif.
Erbyn hynny mi roedd trafodaethau ar droed gyda Phlaid Cymru dros gydweithio'n y Senedd.
Daeth cyhoeddiad ddiwedd Tachwedd bod cytundeb wedi dod i gydweithio ar ddwsinau o feysydd polisi dros y tair blynedd nesa.
Wrth edrych i'r dyfodol mae'r AS Sioned Williams o Blaid Cymru, gafodd ei hethol yn y gwanwyn, yn obeithiol am y cytundeb.
"Mae gweld rhywbeth fel prydiau bwyd am ddim i bob plentyn cynradd wedi cynnig gobaith i fi, yn enwedig yn sgil y ffaith roedd canlyniad yr etholiad yn siomedig i ni - bod ni ddim wedi medru bod yn Llywodraeth Cymru.
"Mae yna lot o bethe heriol iawn yn y cytundeb ond maen nhw'n bethe dwi'n meddwl ble rydyn ni'n medru cydweithio, rydyn ni'n medru delifro."
Ond am y tro Covid-19 yw'r flaenoriaeth o hyd wrth i'r pandemig barhau i daflu cysgod dros Fae Caerdydd a thu hwnt.