Argymhell ymestyn y rhaglen frechu Covid-19 i blant dan 12 sydd dan 'risg'

Brechiad Atgyfnerthu Brechlyn Covid

Mae'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi argymell ddydd Mercher i ymestyn y rhaglen frechu COVID-19 ymhellach ar gyfer plant a phobl ifanc. 

Mae'r JCVI yn argymell y dylai plant 5 i 11 oed sy’n perthyn i un o’r grwpiau “risg” neu sy'n gyswllt cartref i rywun sy’n imiwnoataliedig, gael cynnig y brechlyn Pfizer.

Daw'r argymhelliad yn dilyn penderfyniad diweddar yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) i gymeradwyo rhoi'r brechlyn Pfizer i blant iau. 

Mewn datganiad gan y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, argymhellir gadael bwlch o wyth wythnos rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos o’r brechlyn.

Os bydd unigolyn wedi cael haint COVID-19 yn ddiweddar, dylid aros o leíaf pedwar wythnos cyn derbyn dos arall o'r brechlyn. 

Hyd yma, tan y daw rhagor o wybodaeth a thystiolaeth i’r amlwg, nid yw'r JCVI wedi cynghori a ddylai plant 5 i 11 oed nad ydynt mewn categori “risg” gael eu brechu.

Ehangu'n bellach

Mae'r JCVI hefyd wedi argymell cynnig brechlyn atgyfnerthu COVID-19 i:

  • Bob plentyn a pherson ifanc 16 i 17 oed
  • Plant a phobl ifanc 12 i 15 oed sydd mewn grŵp risg clinigol neu sy'n gyswllt cartref i rywun sy’n imiwnoataliedig
  • Plant a phobl ifanc 12 i 17 oed sy’n ddifrifol imiwnoataliedig ac sydd wedi cael trydydd dos sylfaenol.

Ni ddylai unigolion gael cynnig y dos atgyfnerthu hyd nes y bydd tri mis o leiaf ers iddynt dderbyn cwrs llawn o'r brechlyn. 

Bydd GIG Cymru yn dechrau cynnig apwyntiadau i'r plant sydd yn y grwpiau "risg" ac apwyntiadau ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu i plant o dan 18 yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Yn ôl yr arfer, bydd gwybodaeth briodol am fanteision a risgiau posibl brechu ar gael i blant a phobl ifanc, rhieni a gwarcheidwaid er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â’r brechiad.

"Rwyf wedi derbyn y cyngor hwn. Dilyn y dystiolaeth glinigol a gwyddonol yw ein bwriad, fel yr ydym wedi ei wneud ers dechrau'r pandemig."

"Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.