Y Frenhines i aros yn Windsor dros y Nadolig yn groes i’r arfer

Mail Online 20/12/2021
Brenhines Elizabeth - Swyddfa Dramor Flickr

Mae Palas Buckingham wedi cadarnhau bydd y Frenhines Elizabeth II yn aros yng Nghastell Windsor dros gyfnod y Nadolig wrth i achosion Covid-19 gynyddu'n sylweddol ar draws y wlad.

Yn draddodiadol fe fydd y Frenhines yn teithio i’w chartref ym Mhalas Sandringham, yn sir Norfolk, ar gyfer y Nadolig. 

Yn ôl y Daily Mail, mae'r Frenhines wedi gwneud "penderfyniad personol" i aros yn Windsor ar ôl "ystyriaeth ofalus" o'r sefyllfa bresennol. 

Mae'r Frenhines eisoes wedi gohirio nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys taith i Ogledd Iwerddon oherwydd pryderon am y nifer o achosion Covid-19. 

Darllenwch mwy yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.