Gemau Uwch Gynghrair Lloegr i barhau er achosion Covid-19 ymysg chwaraewyr

Mae Uwch Gynghrair bêl-droed Lloegr wedi penderfynu na fydd gemau nesaf y gystadleuaeth yn cael eu gohirio, er bod sawl tîm yn y gynghrair wedi profi nifer uchel o achosion o Covid-19 ymysg eu chwaraewyr.
Cafodd chwech o gemau eu gohirio dros y penwythnos wrth i nifer o dimau ddioddef prinder chwaraewyr oherwydd effeithiau'r feirws.
Mae nifer o reolwyr wedi galw ar y rownd nesaf o gemau - sydd i fod i gael eu cynnal ar 26 a 27 Rhagfyr - i gael eu gohirio i alluogi timau i adfer.
Ond yn ôl Sky News, mae cyfranddaliwr y gynghrair wedi penderfynu mewn cyfarfod ddydd Llun y bydd gemau yn mynd ymlaen "lle mae'n bosib gwneud hyn yn ddiogel."
Yng Nghymru, cafodd gemau Caerdydd ac Abertawe yn y Bencampwriaeth eu gohirio dros y penwythnos oherwydd achosion cynyddol o Covid-19.
Mae gêm yr Adar Gleision yn erbyn Coventry City ar 26 Rhagfyr eisoes wedi'i gohirio oherwydd y feirws.
Darllenwch mwy am y stori yma.