Newyddion S4C

Pensaer adeilad Senedd Cymru Richard Rogers wedi marw yn 88 oed

The Independent 19/12/2021
S4C

Mae’r pensaer enwog Yr Arglwydd Richard Rogers wnaeth gynllunio adeilad Senedd Cymru wedi marw yn 88 oed.

Fe oedd yn gyfrifol am gynllunio nifer o adeiladau nodweddiadol gan gynnwys y Millennium Dome, Canolfan Pompidou ym Mharis, pencadlys Lloyd’s yn Llundain a’r Llys Ewropeaidd am hawliau dynol yn Strasbwrg.

Yn ôl yr Independent, dywedodd Matthew Freud o gwmni Freud Communications fod Yr Arglwydd Rogers wedi marw’n ‘dawel’ nos Sadwrn.

Cafodd ei eni yn Florence yn Yr Eidal a symudodd y teulu i Loegr pan oedd yn ifanc.

Darllenwch y stori yn llawn yma.

Llun drwy Wotchit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.