Gareth Bale yn profi’n bositif am Covid-19
Mae seren pêl droed Cymru, Gareth Bale wedi profi’n bositif am Covid-19.
Mae'n un o bedwar chwaraewyr o’i glwb Real Madrid sydd wedi profi’n bositif ymhlith y garfan a staff.
Bydd yn rhaid iddo hunanynysu dan ganllawiau'r llywodraeth.
Y chwaraewyr eraill dan sylw yw Marco Assnsio, Andriy Lunin a Rodrygo ynghyd â’r is-hyfforddwr Davide Ancelotti, mab y rheolwr Carlo.
Cyhoeddodd y clwb ddydd Mercher bod y chwaraewyr Luka Modric a Marcelo wedi profi’n bositif.
Darllenwch y stori yn llawn yma.