CPD Caerdydd: Gohirio gêm yn erbyn Derby County yn sgil achosion Covid
16/12/2021
Mae'r gêm Bencampwriaeth rhwng CPD Caerdydd a Derby County ddydd Sadwrn wedi ei gohirio yn sgil Covid-19.
Mewn datganiad brynhawn dydd Iau, dywedodd y clwb bod nifer o achosion positif o Covid-19 wedi eu cofnodi yng nghyfleusterau hyfforddi CPD Caerdydd a Derby County.
Mae'r penderfyniad wedi ei gymryd ar y cyd rhwng y ddau glwb ac yn dilyn trafodaethau gyda Chynghrair Bêl-droed Lloegr (EFL).
Mae disgwyl y bydd dyddiad newydd ar gyfer y gêm yn cael ei gyhoeddi ddiweddarach.
Yn ôl y clwb, bydd tocynnau tymor a thocynnau ar gyfer y gêm hon yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer y dyddiad newydd.
Fe ddiolchodd CPD Caerdydd i'w cefnogwyr am eu dealltwriaeth.