Lansio gwasanaeth newyddion cenedlaethol newydd
Mae S4C wedi lansio Gwasanaeth Newyddion Digidol newydd ddydd Mawrth, sy’n cynnwys ap a gwefan newydd sbon.
Yn ogystal â chyhoeddi straeon gwreiddiol, bydd y gwasanaeth hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda sawl ffynhonnell newyddion arall gan gynnwys Golwg ac ITV Cymru, ac yn cyhoeddi straeon o raglen Newyddion S4C sy’n cael ei pharatoi gan BBC Cymru.
Dyma'r tro cyntaf i wasanaeth newyddion Cymraeg gyhoeddi a churadu cynnwys gan sawl ffynhonnell wahanol, gan gynnig gwasanaeth newyddion cynhwysfawr mewn un lle.
"Mae cydweithio gyda phartneriaid yn golygu ein bod yn gallu rhannu arbenigedd ac adnoddau, gan fod â bys ar byls newyddion lleol a chenedlaethol” meddai Ioan Pollard, Golygydd Gwasanaeth Newyddion Digidol S4C.
"Mae'n holl bwysig i S4C fel darlledwr cyhoeddus i allu cynnig y newyddion diweddaraf i'r gwylwyr ar flaenau eu bysedd.
“Mae'r dyddiau o aros i wylio prif raglen newyddion y sianel yn y nos wedi hen ddiflannu ac mae angen i ni fod yn flaengar wrth sicrhau ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth newyddion ar amryw o blatfformau.”
Bydd y gwasanaeth newydd yn craffu ar straeon am iechyd, amaeth, materion cyfoes, y celfyddydau, chwaraeon a straeon lleol, gan roi pwyslais ar straeon pobl a’u cymunedau.
Gallwch lawrlwytho ap newydd NS4C drwy’r App Store neu Google Play Store ac ymweld â’r wefan ar s4c.cymru/Newyddion