Cwpan y Byd 2022: Cymru i ddarganfod eu gwrthwynebwyr nesaf

26/11/2021
Rob Page

Fe fydd cefnogwyr pêl-droed Cymru ar bigau'r drain ddydd Gwener wrth iddynt ddarganfod pwy fydd yn sefyll rhwng Cymru a safle ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd 2022. 

Mae'r dynion mewn coch ddwy gêm i ffwrdd o hawlio eu lle ar prif lwyfan y byd pêl-droed, a hynny am y tro cyntaf ers 1958 os byddant yn curo'r ddwy gêm ail-gyfle.  

Bydd trefn y gemau yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn Zurich am 16:00 wrth i 12 tîm gystadlu am dri lle yn y bencampwriaeth yn Qatar. 

Yn dilyn gêm gyfartal bwysig yn erbyn Gwlad Belg, mae Cymru wedi hawlio eu lle fel un o'r chwe gwlad uchaf allan o'r 12 - gan sicrhau gêm gartref o flaen y Wal Goch yn y cymal nesaf ym mis Mawrth. 

Image
Pel droed Cymru

Bydd dynion Rob Page hefyd yn cael osgoi chwarae'r timau cryfaf yn y chwech uchaf - timau fel Yr Eidal a Phortiwgal.

Chwe gwrthwynebydd posib

Fe allai Cymru wynebu Awstria, Y Wcráin, Gweriniaeth Tsiec, Twrci, Gwlad Pwyl neu Gogledd Macedonia. 

Mae Cymru yn uwch na phob un o'r timau yma yn safleoedd rhyngwladol FIFA - ond mae rhai gemau yn ymddangos yn anoddach nag eraill. 

O'r chwech, bydd nifer o gefnogwyr Cymru yn gobeithio wynebu Gogledd Macedonia. 

Image
Pel droed Cymru
Enillodd Cymru fuddugoliaeth wych y tro diwethaf iddyn nhw wynebu Twrci.

Mae'r wlad o'r Balkans yn safle rhif 67 ar restr detholion y byd, ac wedi ennill lle yn y gemau ail-gyfle o drwch blewyn mewn grŵp oedd yn cynnwys sawl tîm gweddol wan fel Armenia a Liechtenstein. 

Mae'r gweddill yn peri mwy o her, ond fe fydd yn un y bydd Cymru'n hyderus o'i goresgyn - yn enwedig o flaen cefnogaeth gartref. 

Fe wnaeth Cymru guro'r Weriniaeth Tsiec i'r ail-safle yn ei grŵp rhagbrofol, ond roedd y Tsieciaid eisoes wedi cadarnhau eu lle yn y gemau ail-gyfle trwy eu perfformiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd. 

Image
Dan James
Mae Cymru eisoes wedi trechu'r Weriniaeth Tsiec yng Nghaerdydd.

Mae gan Gymru hefyd hanes diweddar o guro Twrci, a hynny mewn perfformiad gwych yn ystod Euro 2020 yr haf hwn. 

Mae na ansicrwydd dros y tair gwlad sy'n weddill - Awstria, Yr Wcráin a Gwlad Pwyl - gan nad yw Gymru wedi'u hwynebu ers sawl blwyddyn bellach. 

Canlyniad diwethaf Cymru yn erbyn Awstria oedd buddugoliaeth 1-0 yn 2017 yn ystod ymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd. 

Dyw Awstria heb guro Cymru ers 2005 chwaith, ond fe fydd yn rhaid i ddynion Rob Page fod yn ofalus os bydd angen herio tîm gyda sêr megis David Alaba a Marcel Sabitzer. 

Image
Aaron Ramsey
Mae gan Cymru hanes da yn erbyn Awstria yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Mae hanes Cymru yn erbyn Gwlad Pwyl hyd yn oed yn well - gyda phedair buddugoliaeth yn olynol a dim ond un golled mor bell yn ôl a 1973. 

Ond bydd Cymru yn awyddus i osgoi wynebu un o chwaraewyr gorau'r byd, Robert Lewandowski, sydd â dawn o sgorio goliau ar ben ei hun.

Yn wahanol i'r timau eraill, dyw Cymru erioed wedi curo'r Wcráin.

Ac er nad oes un chwaraewr peryglus amlwg yn eu carfan, ni fydd curo'r tîm a lwyddodd i gyrraedd rownd gogynderfynol Euro 2020 yn gamp hawdd. 

Os bydd Cymru yn llwyddo i drechu un o'r gwledydd yma, ac mae'n 'os' go sylweddol, dim ond un fuddugoliaeth arall fydd ei angen i gyrraedd Cwpan y Byd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.