Lansio ymgyrch i atal y gylfinir rhag diflannu yng Nghymru 

gylfinir

Mae cynllun newydd wedi ei lansio i geisio achub y gylfinir yng Nghymru. 

Yn aderyn sy’n cael ei drysori mewn diwylliant a llên gwerin Cymraeg, mae yna bryderon y gallai’r gylfinir ddiflannu o fodolaeth wrth i niferoedd ostwng i lefelau na welwyd o’r blaen. 

Y gred yw, yn ôl The Guardian, fod oddeutu 400 pâr bridio o’r gylfinir yng Nghymru, ond bod y niferoedd yn gostwng ar gyfradd o 6% pob blwyddyn.

Colli a diffyg rheolaeth o gynefinoedd, yn ogystal â chywion yn cael eu lladd gan lwynogod a brain sy’n bennaf gyfrifol yn ôl cadwraethwyr. 

Bydd y cynllun 10 mlynedd yn ceisio adnabod lle mae’r gylfinir yn gallu goroesi a chyflwyno mesurau cadwraeth sydd wedi’u targedu, fel rheoli glaswellt a rhostir yn fwy effeithiol. 

Mae’n cael ei lansio dan nawdd sefydliad o’r enw Gylfinir Cymru, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned amaethyddol, y llywodraeth a grwpiau cadwraeth.

Darllenwch y stori’n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.