Newyddion S4C

Elfyn Evans yn dod yn ail ym Mhencampwriaeth Ralïo'r Byd

21/11/2021
Elfyn Evans

Mae Elfyn Evans wedi colli ym Mhencampwriaeth Ralïo'r Byd ddydd Sul.

Fe orffennodd Evans yn yr ail safle y tu ôl i'r Ffrancwr Sébastien Ogier a'i gyd-yrrwr Julien Ingrassia yn Yr Eidal.

Dyma'r wythfed tro mewn naw tymor i Ogier ennill teitl Pencampwriaeth Ralïo'r Byd, gan ddod â'i yrfa llawn-amser i ben.

Newidiodd y gyrrwr oedd ar y blaen chwe gwaith cyn i Evans droelli yn y prawf cyflymder cynderfynol.

Yn y pendraw, fe enillodd Ogier o 7.3 eiliad.

Dani Sordo orffennodd yn y trydydd safle, 14 eiliad y tu ôl i Evans.

Llun: Stefan Brending

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.