Llywodraeth y DU yn cefnu ar gynllun HS2 i ogledd ddwyrain Lloegr
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi na fyddant yn bwrw ymlaen gyda chynllun i ddatblygu system rheilffordd gyflym yng ngogledd ddwyrain Lloegr.
Fe fydd y llwybr HS2 nawr ond yn ymestyn hyd at Nottingham yng nghanolbarth Lloegr, yn lle cysylltu Leeds gyda Llundain fel oedd bwriad y cynllun gwreiddiol.
Yn ei le, mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Grant Shapps, wedi cyhoeddi cynllun rheilffordd i ganolbarth a gogledd Lloegr gwerth £96bn ddydd Iau.
Yn ol Sky News, fe wnaeth arweinwyr gwleidyddol yng ngogledd Lloegr rhybuddio’r llywodraeth y byddai'n bradychu etholwyr petai nhw'n cael gwared ar y cynllun.
Mae'r cynllun yn cadarnhau y bydd llwybr HS2 yn cael ei gwtogi, er i’r Prif Weinidog Boris Johnson addo’n gyhoeddus y byddai’r gwaith yn mynd yn ei flaen.
Darllenwch y stori’n llawn yma.