Enwau'r sêr 'I'm a Celebrity' fydd yn teithio i Gymru wedi eu cadarnhau

Mirror 16/11/2021
ant a dec

Mae rhestr o enwau'r enwogion fydd yn ymddangos ar gyfres 'I'm a Celebrity Get me Out of Here' 2021 wedi ei ryddhau.

Mae ITV wedi cyhoeddi enwau deg o’r sêr fydd yn ymuno â'r cyflwynwyr, Ant a Dec, yng Nghastell Gwrych ger Abergele.

Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i'r gyfres deledu boblogaidd gael ei chynnal yng Nghymru.

Yr enwogion sydd wedi eu cyhoeddi hyd yma gan ITV yw: Frankie Bridge, David Ginola, Louise Minchin, Naughty Boy, Arlene Phillips, Matty Lee, Kadeena Cox, Danny Miller, Snoochie Shy a Richard Madeley.

Bydd rhaglen gyntaf y gyfres yn cael ei darlledu ddydd Sul 21 Tachwedd. 

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.