
Cannoedd yn uno i alw am 'weithredu brys' ar argyfwng tai

Cannoedd yn uno i alw am 'weithredu brys' ar argyfwng tai
Daeth cannoedd o bobl ynghyd mewn protest ar risiau'r Senedd ddydd Sadwrn yn galw am weithredu brys ar yr argyfwng tai.
Fe deithodd pobl o bob cwr o Gymru i Gaerdydd.
Roedd ymgyrchwyr yn gofyn am Ddeddf Eiddo i reoli prisiau tai a rhent fel eu bod fforddiadwy i bobl sy’n byw ar incymau lleol.
Cafodd y dorf ei annerch gan Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol, Rhys Tudur o’r ymgyrch Hawl i Fyw Adra ac Ali Yassine.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai cynghorau sir yng Nghymru ydy'r unig rai yn y Deyrnas Unedig sydd â'r pwerau i ddyblu biliau treth y cyngor ar ail gartrefi.
Mae'r Llywodraeth yn edrych ar gynlluniau eraill hefyd, a fydd yn cael eu cyhoeddi wythnos nesaf.

Yn ôl un myfyriwr o Ynys Môn a ddaeth i'r brotest, mae'r sefyllfa wedi "mynd yn rhy bell".
Dywedodd Osian Roberts wrth Newyddion S4C: "Ar y funud mae'r argyfwng tai 'ma di dod i bwynt lle, mae o 'di mynd rhy bell.
"Ma'r Gymdeithas [yr Iaith] wedi bod yn gweithredu dros flynyddoedd rŵan degawdau, ac yr un hen broblem sy' dal i fynd," ychwanegodd.
"'Di'r tai ddim yn fforddiadwy ar Sir Fôn ar y funud, mae'r prisia 'di mynd i fyny. Ti'm sbïo ar ardaloedd fatha Benllech a Rhosneigr enwedig mae nhw fath o ghost town yn y gaea'."
Ychwanegodd aelod arall o'r dorf, Lis McClean: "Dwi'n meddwl bod e'n rili bwysig i gefnogi'r ymdrechion achos dwi ishe i fy mhlant a fy wyrion a'i phlant nhw cael rhywle i fyw yn eu cymuned eu hunain. A chadw'r iaith hefyd yn ein cymuned ni."

Dywedodd Mabli Siriol Jones, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith wrth raglen Newyddion S4C: "Bwriad heddi odd dod ynghyd fel cymunedau a phobl ar draws y wlad i gyd i sefyll gyda'n gilydd.
"Ry'n ni'n mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau 'da ni angen nawr er mwyn sicrhau cartref i bawb a chymunedau cryf Cymraeg ar draws Cymru."
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cymru yw'r unig wlad yn y DU i roi'r pwer i awdurdodau lleol i newid y premiwm - hyd at 100% - ar dreth cyngor i dai sy'n wag yn hir-dymor ac ail dai hefyd.
"Dyma un o'r mesurau ry'n ni wedi ei gyflwyno i helpu gyda'r broblem o'r niferoedd anghymesur o ail-dai mewn rhai cymunedau.
"Ar hyn o bryd, ry'n ni'n ymgynghori ar opsiynau pellach ar gyfer trethi lleol ar ail-dai a llety hunan-arlwyo."
Ychwanegodd llefarydd ar ran y Llywodraeth ei bod yn edrych ar gynlluniau eraill er mwyn eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.