Carchar am oes i lofrudd merch 16 oed yn Rhondda Cynon Taf
Mae dyn wedi derbyn dedfryd o garchar am oes am lofruddio merch 16 oed mewn bwyty yn Rhondda Cynon Taf.
Fe fydd yn rhaid i Chun Xu dreulio o leiaf 30 o flynyddoedd dan glo am ei drosedd.
Fe laddodd Xu, 32, Wenjing Lin ym mwyty Blue Sky ym mhentref Ynyswen ger Treorci fis Mawrth eleni.
Fe'i cafwyd yn euog hefyd o geisio llofruddio Yongquan Jiang, oedd yn llystad i Wenjing, ac fe dderbyniodd 25 mlynedd o garchar am y drosedd honno - gyda'r ddwy ddedfryd i redeg ochr yn ochr â'i gilydd.
Ar ôl ei arestio dywedodd Xu wrth yr heddlu ei fod eisiau “dial” yn erbyn mam Wenjing Lin ar ôl bod mewn dyled o £ 14,000 iddi.
Roedd wedi benthyg yr arian er mwyn talu rhywfaint o'i ddyledion gamblo yn yn Tsieina.
Gwrthododd Xu ymddangos yn y llys fore dydd Gwener i dderbyn ei ddedfryd.
"Dial yn erbyn ei mam"
Wrth gyhoeddi'r ddedfryd, dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC wrtho ei fod wedi llofruddio merch ddiniwed 16 oed "a'i lladd fel gweithred o ddial yn erbyn ei mam.
"Fe fyddwch yn eich 60au cyn i chi hyd yn oed gael cyfle i wneud cais am barôl i gael eich rhyddhau. Fe fydd hynny yn y flwyddyn 2051."
Ychwanegodd y Barnwr Thomas: "Roedd bywyd Wenjing yn fywyd o addewid dibendraw. Mae'r holl botensial hwnnw, ac roedd yn gyfoethog, bellach yn rhywbeth nad oes modd ei lenwi.
"Ni fydd bywyd ei mam Meifang fyth yr un fath. Roedd hi yn ferch arbennig o hyfryd yn ôl pob son, gyda photensial enfawr. Mae ei theulu a llawer o'i ffrindiau mewn galar dwfn, nawr ac i'r dyfodol."
Dywedodd nad oedd ganddo unrhyw amheuaeth, ar ôl gwrando ar yr holl dystiolaeth, fod Xu wedi trefnu'r ymosodiad ar y teulu yn bell o flaen llaw.
"Fe wnaethoch greu sefyllfa trwy ofyn am gael aros yn eu cartref, a thrwy ofyn yn slei eu bod nhw'n dweud wrth neb am y trefniadau.
"Fe wnaethoch chi fynd â chi fel arf ar gyfer llofruddio, o bosibl, cyllell o'r tecawê yr oeddech chi wedi aros ynddo ar y noson gynt. Fe wnaethoch chi hefyd chwilio ar y rhyngrwyd am wybodaeth am olion bysedd ar gyllyll, ac os oedd modd eu dinistrio gan dân."
Dywedodd y barnwr mai'r prif gymhelliad dros y llofruddiaeth oedd dial ar fam Wenjing Lin: “Roeddech chi'n flin iawn ei bod wedi dweud wrth eich teulu am eich sefyllfa ariannol er mawr cywilydd i chi - yn enwedig yn erbyn cefndir o'ch problemau gamblo.
“Y materion ariannol, yn fy amcangyfrif i, oedd y rheswm dros eich drwgdeimlad yn erbyn Meifang yn hytrach na’ch bod yn ceisio manteisio yn ariannol o ganlyniad i’ch gweithredoedd.”
Llun: Heddlu De Cymru