Newyddion S4C

Michael Sheen a'r Manics yn creu ysgoloriaeth ddrama i bobl ifanc

Nation.Cymru 08/11/2021
x

Mae'r actor Michael Sheen a'r band Manic Street Preachers wedi dod at ei gilydd i greu ysgoloriaeth ddrama i bobl ifanc.

Bydd hyd at £15,000 yn mynd tuag at gynnig ysgoloriaeth Mab Gwalia i hyd at dri myfyriwr o Gymru bob blwyddyn.

Dywedodd yr actor Michael Sheen y dylai cyfleoedd fod ar gael i bawb, "nid dim ond y rheiny sy'n gallu eu fforddio." 

Yn ôl Nation.Cymru, bydd modd gwneud cais ar gyfer yr ysgoloriaeth erbyn diwedd Tachwedd eleni, a bydd y myfyrwyr yn cael eu dewis ar sail datganiad personol ac amgylchiadau ariannol.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.